Ffurfiwyd Côr Caerdydd gan Gwawr Owen ar 1 Ebrill 1992 er mwyn cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth y flwyddyn honno. Ar eu hymddangosiad cyhoeddus cyntaf, fe enillodd Côr Caerdydd y wobr gyntaf yn y brif gystadleuaeth gorawl.
Maent wedi cystadlu yn y Genedlaethol bob blwyddyn ers hynny, ac wedi ennill y wobr gyntaf naw gwaith. Maent hefyd wedi dod i'r brig yng Ngŵyl Gorawl Corwen a Gŵyl Fawr Aberteifi.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r côr wedi meithrin perthynas agos gyda'r cyfansoddwr hynod o lwyddiannus, Karl Jenkins. Clywir y côr ar CD Requiem Jenkins, ar DVD Mass for Peace, ac maent wedi perfformio gyda'r cyfansoddwr yn Neuadd Dewi Sant,y Royal Festival Hall a'r Gadeirlan yn Guildford. Yn ogystal perfformiwyd Mass for Peace mewn cyngerdd gala arbennig yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 12 Mawrth 2006 gyda Karl Jenkins yn arwain; fel rhan o ddathliadau Cerddorfa Ieuenctid Cymru yn 60 oed.
Ar deledu, gwelwyd Côr Caerdydd ar Songs of Praise, Dechrau Canu Dechrau Canmol, FA Classic, Noson Lawen, Y Croesholiad gan Stainer, Gymanfa o Gastell Sain Dunwyd, Codi'r To, Ar y Groesffordd gyda Bryn Terfel, ac ar raglenni radio 91Èȱ¬ Radio Cymru, 91Èȱ¬ Radio 2 yn Sunday Half Hour, Morning Service ar 91Èȱ¬ Radio 4, Symffoni rhif 9 Beethoven a Symffoni rhif 2 gan Mahler ar 91Èȱ¬ Radio 3 gyda Cherddorfa a Chorws Genedlaethol Gymreig y 91Èȱ¬.
Dros y blynyddoedd hefyd mae'r côr wedi cynnal cyngherddau ledled y wlad, nifer ohonynt i godi arian at achosion da ac wedi recordio cryno ddisg. Mae'r repertoire yn cynnwys oratorios, cytganau o operâu, darnau clasurol, caneuon o'r sioeau, caneuon gwerin a threfniannau o ganeuon poblogaidd. Yn ddiweddar mae Côr Caerdydd wedi ymddangos yn Choral Classics gyda'r Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol, canu o flaen cynulleidfa o bron i bum mil mewn Classical Spectacular yn Arena Ryngwladol Caerdydd, y Proms Cymreig, Centenary Prom, canu o flaen aelodau o'r teulu brenhinol, cyngerdd yn Eglwys Gadeiriol Llandaf, Gwasanaeth Coffa'r Heddlu a nifer o gyngherddau elusennol.
Ymunodd y côr â Bryn Terfel a Sinfonia Cymru mewn perfformiad o Symffoni rhif 9 gan Beethoven yn Neuadd Dewi Sant a hefyd gyda Chorws 91Èȱ¬ Cymru yn y 91Èȱ¬ Proms yn Llundain yn perfformio Gwledd Belshazzar - profiad bythgofiadwy!
Ar ddiwedd mis Mai 2007 byddwn yn teithio i Barga yn yr Eidal i berfformio Petite Messe Solonelle gan Rossini mewn cyngerdd sydd ynghlwm wrth Academi Cerdd Prifysgol Caerdydd. Yn ogystal, bydd y gwaith yn cael ei pherfformio yn Eglwys Gadeiriol Llandaf ar 18 Mai 2007. Mae'r côr yn edrych ymlaen yn eiddgar am y daith. Os hoffai unrhyw un, yn enwedig tenoriaid a baswyr, i ymuno â'r Côr, bydd croeso cynnes iawn i chi. Dewch draw i Eglwys Dewi Sant. Heol San Andreas, Caerdydd am 8.00pm neu ffoniwch 029 2069 1924.
Sian Couch