Ar ôl i warws "Aardman Animations" ym Mryste losgi i'r llawr, penderfynwyd cael cystadleuaeth ar raglen deledu "Richard & Judy" yn gwahodd gwylwyr i ddanfon eu modelau gwreiddiol i mewn i'r rhaglen i weld pwy allai greu y "Wallace & Gromit" nesaf. Y wobr i'r enillydd fyddai £1,000. Cafodd Emyr Jones, Ysgol Glantaf, ei annog gan ffrind ysgol i roi cynnig arni. Roedd Emyr wedi ennill yn y gystadleuaeth Gwaith Creadigol 3D blwyddyn 7 & 8 yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni. Dyfrig y Ddraig oedd cynnig Emyr.
Dewisodd y beirniad, Merlin Chessingham, un o brif animeiddwyr "Aardman Animations", y tri model gorau allan o filoedd o fodelau a dderbyniwyd. Roedd Dyfrig yn un ohonynt! Pleidlais gwylwyr y rhaglen a fyddai'n penderfynu pa un o'r tri a ddeuai i'r brig.
Derbyniwyd miloedd o bleidleisiau gan gefnogwyr y tri ymgeisydd a Dyfrig y Ddraig a ddaeth yn fuddugol wedi ennill ychydig dros gant yn fwy o bleidleisiau na'r ddau arall ar y rhestr fer.
Carai Emyr ddiolch yn fawr iawn i bob un o'r cefnogwyr a bleidleisiodd.
|