Penderfynodd yr aelodau werthu'r capel, sydd yn Charles Street ger Marks & Spencer yng nghanol y ddinas, a chynhelir yr oedfa olaf yno fis Gorffennaf.
Dywedodd y Gweinidog, y Parch Alun Tudur. "Roedd yr adeilad yn arfer bod yn achos annibynnol Saesneg ond fe brynwyd ein hen gapel ni lle mae Canolfan Dewi Sant a symudodd y gynulleidfa i'r capel presennol yn 1980."
Byddai angen gwario dros £200,000 i drwsio to'r capel sydd yn adeilad cofrestredig ac mae cyrraedd y capel a chael lle parcio yn anodd. Bwriad yr aelodau yw chwilio am safle addas ac adeiladu canolfan gymdeithasol amlbwrpas.
|