O ble rwyt ti'n dod yn wreiddiol?
Llandre ger Aberystwyth.
Ym mha ran o Gaerdydd rwyt ti'n byw?
Yn y Rhath.
Ers faint rwyt ti'n byw yng Nghaerdydd?
Ers tua 13 mlynedd.
Beth fuest ti'n ei wneud cyn/ar ôl symud yma?
Symudais i lawr i Gaerdydd yn 1995 i astudio Cymraeg a Ffrangeg yn y Brifysgol. Fe wnes i fwynhau fy amser yn y coleg mas draw - y bywyd cymdeithasol a'r cwrs!
Ces i'r cyfle i fyw yn Llydaw am naw mis yn ystod y drydedd flwyddyn, yn dysgu Saesneg mewn ysgol uwchradd yn Saint Brieuc. Dim ond deuddeg awr yr wythnos oedd yn rhaid i ni weithio felly roedden ni'n defnyddio ein hamser sbâr i deithio o amgylch Llydaw a gogledd Ffrainc. Ces i swydd gyda Trosol yn syth ar ôl gadael y coleg yn gweithio fel is-deitlydd yn y 91Èȱ¬ a bues i'n gweithio yno am tua dwy flynedd a hanner.
Ble rwyt ti'n gweithio erbyn hyn?
Dw i bellach yn Gydlynydd Is-deitlo yn S4C ac wedi bod yma ers tua chwe mlynedd. Dw i'n edrych ar ôl y gwasanaeth is deitlo, arwyddo ar gyfer y byddar a'r trwm eu clyw, a'r gwasanaeth sain ddisgrifio ar gyfer y dall a'r rhannol ddall. Dw i'n mwynhau'r swydd ac mae yna griw da yn gweithio yn y swyddfa gyda fi.
Beth wyt ti'n hoffi ei wneud yn dy amser hamdden?
Dw i'n mwynhau treulio amser gyda fy ffrindiau a fy nghariad, yn y dafarn, mynd allan am fwyd neu mynd i'r sinema. Mae gen i ddiddordeb mewn cerddoriaeth a dw i'n joio mynd i gigs a chyngherddau. Fe fues i'n Llundain ddechrau mis Ionawr i weld y Spice Girls. Fe wnes i fwynhau'r noson mas draw gan i'r gyngerdd ddod a lot o atgofion da yn ôl i mi! Fydda i ddim yn gwylio'r teledu cymaint a hynny ond fydda i byth yn colli 'Torchwood' na 'Rownd a Rownd'. Dw i'n aelod o'r gampfa hefyd ond dw i ddim yn mynd mor aml ag y dyliwn i!
Beth sy'n gwneud i ti chwerthin?
Mae PC Leslie Wynne bob amser yn gwneud i mi chwerthin. Roeddwn i'n rhan o'r gynulleidfa pan oedd ei gyfres newydd yn cael ei ffilmio yn y Senedd yn ddiweddar. Mae nifer o fy ffrindiau yn gallu gwneud i mi chwerthin hefyd a dw i'n meddwl bod Russell Brand ac Alan Carr yn ddoniol iawn.
Ble ydy'r mannau gorau i fynd allan yng Nghaerdydd?
Fe wnaethon ni ddechrau Clwb Cyri yn y swyddfa tua blwyddyn a hanner yn ôl ac ry'n ni'n mynd allan am fwyd unwaith y mis. Mae'n gyfle grêt i ymweld â gwahanol fwytai yng Nghaerdydd yn enwedig gan nad ydyn ni'n mynd am gyri bob tro! Cafon ni fwyd ffantastig yn Juboraj mis diwethaf.
Pan dw i'n mynd allan i yfed, ry'n ni fel arfer yn aros yn lleol, naill ai yn mynd i'r George neu Milgi yn y Rhath neu'r Mochyn Du ym Mhontcanna. Mae Milgi yn gwneud y coctêls gorau yn y ddinas felly dw i'n mynd yno pan dw i'n teimlo fel sbwylio'n hunan! Ry'n ni'n mynd i'r Bae yn weddol aml hefyd - mae 'na nifer o fariau neis yno.
Ble ti'n hoffi mynd am wyliau?
Dw i wrth fy modd yn mynd ar wyliau ac yn mynd i ffwrdd mor aml â phosibl. Dw i'n mwynhau pob math o wyliau - ymweld â dinasoedd, gwyliau yn yr haul a gwyliau sgio. Aethon ni o gwmpas Sbaen tua blwyddyn a hanner yn ôl gan orffen yn Tarifa reit ar waelod y wlad. Dyna fy hoff le yn y byd -'traethau a bariau gwych ac mae'r lle yn llawn hippies a kite surfers! Y gwyliau diwethaf i mi arno oedd wythnos yn yr haul yn Mecsico. Hoffwn i fynd i Cuba neu Brasil cyn hir.
Petaet yn cael y cyfle i wella neu newid rhywbeth yng Nghaerdydd, beth fyddet ti'n ei wneud?
Hoffwn i petai Cyngor Caerdydd yn stopio anfon eu lorïau casglu sbwriel o gwmpas am hanner awr wedi wyth y bore pan mae pawb arall yn trio cyrraedd y gwaith ar amser! Mae'n fy ngwylltio i pan dw i'n cael fy nal tu ôl i lori sbwriel sy'n stopio tu fas i bob tŷ pan dw i'n rhedeg yn hwyr!
Ble rwyt ti'n gweld dy hun mewn deng mlynedd?
Dw i ddim yn gallu gweld fy hun yn symud o Gaerdydd o fewn y deng mlynedd nesaf. Gobeithio y bydd gen i deulu erbyn hynny ac y bydda i'n dal i joio bywyd yng Nghaerdydd.
Mwy o Gaerdydd
|