Gallaf glywed y mab yn galw o gefn y
car, "Ydyn ni wedi cyrraedd eto?" "Na
'nghariad i" atebaf, "dim ond rhyw
3,500 o filltiroedd i fynd..." A gwir
bob gair fydd hi, achos ddiwedd mis
Mai byddaf i (a'r mab) ynghyd â chriw
o gefnogwyr pêldroed
Cymru yn
gyrru o Gaerdydd i Azerbaijan, nid yn
unig i weld ein tîm cenedlaethol yn
chwarae yn y brifddinas Baku, ond
hefyd i godi arian at elusennau plant.
Lansiwyd elusen, Gôl!, yn 2002 gan
griw o gefnogwyr oedd am wneud
gwahaniaeth i'r gymuned leol yn Baku
wrth iddynt ddilyn y tîm cenedlaethol.
Buom yn ymweld â chartref i blant
amddifad gan gynnig anrhegion, citiau
pêldroed,
teganau a rhoddion ariannol.
Daeth ymweliadau o'r fath yn rhan
annatod o'r teithiau pêldroed
tramor
yma. Bellach rydym wedi ymweld ag
achosion da mewn ugain o wledydd
Ewropeaidd. Rydym hefyd yn trefnu i
blant difreintiedig fynychu gemau
cartref Cymru yng Nghaerdydd a
Wrecsam. Trwy wneud hyn, rydym
hefyd yn llwyddo i gynnal enw da
cefnogwyr pêldroed
o Gymru.
Mae 30 o gefnogwyr Gôl! mewn 10
o gerbydau yn gyrru i Azerbaijan gan
ailymweld
â rhai o'r cartrefi y talwyd
ymweliad â hwy dros y blynyddoedd,
yn Fiena, Bwdapest, Burgas a
Bratislava. Byddwn hefyd yn treulio
dau ddiwrnod yn Kutaisi, ail ddinas
Georgia, sydd wedi gefeillio gyda
Chasnewydd. Ac wrth gwrs byddwn
yn dychwelyd i'r cartref i blant yn
Baku lle dechreuodd gwaith Gôl! yn
2002.
Mae croeso i unrhyw gefnogwr ddod
yn rhan o Gôl! Ewch i
www.golcymru.org Rydym eisoes
wedi talu am y car felly bydd eich
cyfraniad yn mynd yn syth i'r elusen.
Cefnogwch ein hymgyrch i godi
arian at Gôl! drwy ymweld â fy
nhudalen ar y we www.justgiving.com/
timhartley
|