Cyn crwydro'r hen fynwent, aeth y criw i
fynedfa Heol Allensbank a mynd at fedd y
bardd a'r llenor T Rowland Hughes. Bu farw
ym 1949. Cafwyd darlleniadau o'i nofel 'O
Law i Law' ac o'i farddoniaeth a'i emynau.
Draw wedyn i fynedfa Heol Fairoak lle'r
oedd Philip, un o swyddogion y Cyngor, yn
disgwyl. Fe oedd y tywysydd a chanddo stôr
o wybodaeth ddiddorol am y cymeriadau o
hanes Caerdydd sy'n gorwedd yno. Y man
rhyfeddaf oedd bedd coes Samuel Chivers!
Fe'i collodd trwy ddamwain ffordd. Gŵr o
Heol Richmond oedd e, cynhyrchydd finegr.
Dyma rai yn unig o'r beddau hynod, y
masnachwyr, y gwleidyddion, y clerigwyr, y
bocswyr a'r gwÅ·r glew a goffeir yn Cathays.
Bedd enfawr o wenithfaen coch sydd gan
Jonathan Billups a wnaeth ffortiwn ar godi
rheilffyrdd. Cofeb wen, yn angylion i gyd, y
talaf yn y lle yw un Sidney White. Teulu hwn
ddatblygodd ffeiriau'r Barri a Phorthcawl.
William Tatem wedyn oedd un o brif
berchnogion llongau Caerdydd, ei gofeb
ddrudfawr yn cynnwys sawl angor. Daeth yn
Farwn Glanely ar gyfrif ei gefnogaeth i'r
Rhyfel Mawr. Masnachwr coed ac
ymgyrchydd yn erbyn caethwasiaeth oedd
John Bachelor. Gwelir cerflun iddo, 'The
Friend of Freedom', ar yr Ais.
Safwyd wrth fedd un o weinidogion y
Tabernacl, y Parchedig Charles Davies, a'i
briod. Bedd anferth yn adran yr Eglwys
Gatholig sydd gan yr Esgob Hedley ac, wrth
ei draed, gorwedd y paffiwr Jim Driscoll,
'Peerless Jim'. Ymysg beddau' r
Protestaniaid, mae un Jack Peterson, hefyd
yn gynbencampwr
pwysau plu'r byd. Stori
hynod oedd honno wrth fedd Ernest Willows
a roddodd ei enw i ysgol, stryd a thafarn yn y
dre. Collodd ei fywyd yn ifanc wrth hedfan
mewn balŵn aer poeth. Ifancach eto, yn
bedair ar ddeg, claddwyd Louisa Maud
Evans a gollodd ei bywyd pan suddodd
balŵn awyr yn y sianel. Dod i Gaerdydd o'r
Alban wnaeth Frances Batty Shand a'i
brawd, i weithio ymysg y deillion.
Gadawodd hi arian i Sefydliad y Deillion ar
Heol Casnewydd. TÅ· Shand yw'r enw ar yr
adeilad.
Diolch i Philip Amphlet a'r Cyngor am
agor y fynwent i ni ac am wledd o
wybodaeth.
|