Dim ond 15 cystadleuydd ddechreuodd y ras gan nofio 2.4 milltir, beicio 112 milltir a rhedeg marathon 26.2 milltir. Clywais am y gystadleuaeth hon pan oeddwn yn blentyn. Bum mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, ar 27 Gorffennaf 2003, roeddwn yn sefyll ar lan Llyn Zurich ynghyd â 1400 o gystadleuwyr o 39 gwlad ar fin cystadlu yn Ironman y Swistir. 7 o'r gloch y bore - dechrau gyda nofio. Mae nofio yng nghanol cymaint o gystadleuwyr yn brofiad unigryw - bron fel gornest paffio! Allan o'r dwr mewn 1 awr 18 munud, ac ymlaen â'r cit beicio. Tri lap 37 milltir om blaen. Oes 'na fynyddoedd yn y Swistir? Ar ôl beicio am 7 awr 22 munud a dringo chwe mynydd lle roedd angen rhaffau i gyrraedd y copa, cyrhaeddais ran olaf y ras - dim ond marathon!! Wrth ddechrau rhedeg dechreuodd hi lawio. Hyfryd. Cyfle i oerir corff. Yn anffodus, nid glaw mân ond monswn a barhaodd am weddill y diwrnod. Os nad oedd y pellter yn mynd i goncro'r corff efallai byddair tywydd yn gwneud hynny. Tair lap o ddinas Zurich oedd taith y marathon gyda miloedd o drigolion y ddinas wedi dod i gefnogi'r cystadleuwyr. Gyda'r glaw yn dal i ddisgyn ac wrth redeg ar lan y llyn gwelais yr arwydd 400m i fynd. Roedd emosiwn y foment yn anhygoel. Roedd hi ar fin troi 8.25 y nos!! Ac mi oeddwn yn dal yn fyw... wel, bron â bod!! Ar ôl 13 awr 24 munud a 57 eiliad, troediais dros y llinell gan ddal baner Cymru uwch fy mhen. Aelod newydd o glwb yr Ironman! Un o'r rhesymau am ymgymryd a menter yr Ironman oedd i godi arian i Ward B5, sef yr Uned Arennau, yn Ysbytyr Brifysgol yng Nghaerdydd. Ym mis Ebrill bu'r ysbyty'n gyfrifol am drawsblannu un o arennau fy mam, Delun Callow, im brawd, Meuryn Hughes. Teimlaf fod hyn yn fodd priodol i ddiolch i'r ysbyty. Geran Hughes [Os hoffech gyfrannu at Gronfa Ward B5 mae croeso i chi godi'r ffôn i Geran neu ddanfon siec i'r cyfeiriad hwn: Geran Hughes, 21 Heathbrook, Llanisien, Caerdydd CFl4 5FA. Ffôn: 029 2019 8355.]
|