Hydref a Thachwedd yw'r amser delfiydol i blannu bylbiau tiwlip. Mae'r canolfannau garddio yn llawn o bob math ohonynt - digon i'ch drysu yn wir. Gallwch gael rhai byr neu rai tal, rhai'n blodeuo ym mis Mawrth neu ym mis Mai, sengl neu ddwbl, un pen neu sawl pen i bob coes, a bron pob lliw dan haul hefyd. Felly, ble mae dechrau? Mae rhai yn gweld tiwlips fel blodau i'r parciau cyhoeddus yn unig, wedi eu plannu mewn gwelyau ffurfiol gyda nad-ân-angof neu flodau mam-gu, ond gyda'r holl amrywiaeth sydd i'w gael a gydag ychydig o ddychymyg gallant fod yn rhan o'r border bach hefyd. Un o'r cynharaf i flodeuo a brynaf yw'r math 'Fusilier' sydd â sawl pen lliw sgarled ar bob coesyn ac felly yn creu golwg mwy anffurfiol. Un coch arall yw 'Red Riding Hood' sydd ychydig yn dalach ac yn blodeuo ym mis Ebrill. Mae ganddo ddail dau liw sy'n ychwanegu at y diddordeb. Mae'r tiwlips byr yma yn dda mewn potiau ac yn gwrthsefyll tywydd gwyntog. Ar gyfer y border, gallwch gael dilyniant o flodau pob lliw o Ebrill ymlaen, e.e. 'Purissima' (gwyn, sengl), 'Monte Carlo' (melyn dwbl), 'Apricot Beauty' ('peach sengl), 'Peer Gynt' (pinc, sengl), 'Blue Diamond' (porffor, dwbl), 'Black Swan' (lliw cwrens duon, sengl), 'Valentine' (pinc a gwyn), 'Shirley' (porffor a gwyn). Yna, mae'r mathau mwy diweddar fel y 'parrot tulips' sydd â phetalau ag ymyl fel plu aderyn ac yn gallu bod mewn lliwiau llachar. Ond gwell gen i'r math o lili sy'n fwy gosgeiddig gyda'i ganol main fel 'West Point' (melyn) a 'Maytime' (porffor). Beth bynnag fydd eich dewis, prynwch y bylbiau mwyaf eu maint, fe fyddan nhw yn werth y gost ychwanegol. Gwnewch yn siwr eu bod nhw yn iach a phlannwch nhw'n ddwfn, o leiaf chwe modfedd o ddyfnder. Un rhybudd arall - gochelwch y gwiwerod! Maen nhw'n hoff o'r bylbiau hefyd, ac fe wnan nhw eu bwyta o dan eich trwyn, felly rhowch rwyd drost y blodau i'w diogelu. Os nad ydych yn siwr pa un yw'r lle gorau i'w plannu, rhowch nhw mewn potiau plastig ac yna pan fyddan nhw yn eu blodau, gallwch eu suddo yn y border fel y bo'r galw. Gan Hwn a Hon
|