Cafwyd cais gan Cameron Macintosh, cynhyrchydd gwreiddiol Les Miserables, i anfon pedwar o brif gymeriadau cynhyrchiad Theatr Ieuenctid yr Urdd i gyfres o glyweliadau yn Llundain ac fe gafodd y pedwar eu derbyn i fod yn rhan o'r dathliadau.
Ymysg y rhai fu'n perfformio yno ar ran Urdd Gobaith Cymru oedd Rhydian Marc a Siriol Dafydd o Ysgol Gyfun Plasmawr.
Meddai Rhydian Marc a oedd yn chwarae rhan Enjolras yn y cynhyrchiad nos Sadwrn:
"Fedra i ddim dechrau esbonio pa mor arbennig oedd y profiad o gael bod yn rhan o ddathliadau Les Miserables, ac yn fwy na hynny cael perffommio yn y West End yn Llundain. Roeddwn ni yn hynod o nerfus cyn y perfformiad ond dwi mor ddiolchgar i'r Urdd am roi'r cyfle gwych yma i mi, ac am agor y drws a rhoi'r hyder i mi geisio mynd ymlaen a datblygu fy ngyrfa fel perfformiwr."
Llongyfarchiadau mawr i Rhydian a Siriol.
|