Mae Mared Davies, Nia Tudor a Emma Sullivan o flynyddoedd 9 a 10 Ysgol Maes Yr Yrfa, Cefneithin wrth eu bodd o gael y cyfle i berfformio mewn sioe Gymraeg unigryw fel hon: "Rydyn ni'n ymarfer ar benwythnosau a dros wyliau'r Pasg, a mae'n lot o sbort achos r'yn ni'n cael aros yng Ngwersyll yr Urdd yn y bae yng Nghaerdydd, a fel 'na ni'n gallu gwneud lot mwy o ffrindiau. "Rydw i mo'yn mynd mewn i fyd y ddrama, felly mae hwn yn brofiad da iawn i fi," meddai Nia Tudor. Mared Davies: "Gafon ni'r clyweliad cyntaf yn Ysgol Bro Myrddin, wedyn disgwyl clywed ac yna ail glyweliad yng Nghanolfan y Mileniwm. O'n i'n excited iawn ond yn poeni yr un pryd, achos oedd fy ffrindiau wedi cael llythyr i ddweud bo nhw wedi cael lle yn y cast cyn fi!" Rhodri Davies a Dani Davies - dau o'r prif gymeriadau Mae Dani Davies sy'n 17 oed o Ysgol Gyfun y Cymer a Rhodri Davies o Goleg y Drindod, Caerfyrddin eisoes wedi cael profiad o berfformio. Mae Dani wedi bod yn aelod o 'Spotlight Theatre Company' ers blynyddoedd ac yn gobeithio astudio drama yn y brifysgol gan fynd ymlaen i actio yn broffesiynol. Mae Rhodri hefyd wedi cael blas o berfformio ag yntau yn aelod o Theatr Ieuenctid Cwm Gwendraeth. "Rydw i wedi mwynhau y profiad o gyfarfod pobl o wahanol rannau o Gymru," meddai Rhodri."Mae'n gr锚t cael y cyfle i berfformio sioe gerdd mor enwog yn y Gymraeg, a'r perfformiad cyntaf ohono yn y Gymraeg." "Mae'r sioe gerdd yn adlewyrchu y cyfleoedd sydd ar gael i ddefnyddio'r Gymraeg yn y theatr," meddai Dani Darllenwch Adolygiad o'r sioeCliciwch yma i weld lluniau o'r cast yn ymarfer Darllenwch gyfweliad gyda Carys Edwards, un o gyfarwyddwyr y sioe gerdd.
|