Cyfarfod pwysig oedd hwn, i drafod argyfwng cyfoeth nodedig casgliadau Llyfrgell Dinas Caerdydd, a'r ymgyrch diweddar i'w diogelu rhag cael eu gwerthu gan Gyngor Caerdydd.
Eglurwyd y sefyllfa gan dri arbenigwr a chanddynt wybodaeth helaeth am lawer o ddeunydd y casgliadau, a'r tri hefyd yn bileri'r Cymrodorion: y Dr. E. Wyn James (Uwch-ddarlithydd Ysgol y Cymraeg, Prifysgol Caerdydd), Dr. John Gwynfor Jones (Athro Emeritws, Ysgol Hanes ac Archaeoleg, Prifysgol Caerdydd), a Mr Brynmor Jones (cyn Bennaeth Adran Astudiaethau Lleol Llyfrgell Gyhoeddus Caerdydd). Mynegodd y tri yn gryf y pryder mawr, nid yn unig am y llyfrau Cymraeg, ond am y casgliadau cyfan, cyfoethog, sy'n arbennig i Lyfrgell y Brifddinas. Bu'r modd y penderfynwyd ceisio'u gwerthu yn un o brif bryderon y gwrthwynebiad.
Adeiladwyd y casgliadau mewn sawl ffordd: anrhegion, rhoddion mewn ewyllys, neu lyfrau wedi eu prynu â thanysgrifiadau cyhoeddus. Mae'n debygol felly nad oes gan y Cyngor unrhyw hawl i werthu nifer o'r llyfrau a glustnodwyd ganddynt ar gyfer ocsiwn cwmni arwerthwyr Bonham.
Mae'n amlwg ymhlith llyfrwerthwyr a gwerthwyr hen lyfrau fod gostyngiad yn safon Llyfrgell Caerdydd wedi digwydd yn dawel bach dros y chwarter canrif diwethaf. Eisoes trosglwyddwyd rhai o'r casgliadau llai pwysig i lyfrgelloedd eraill. Syrthiodd llawer o eitemau i ddwylo llyfrwerthwyr. Ond fe ddisgwylir bod y mwyafrif o'r casgliadau pwysig yn dal i fod rywle yng nghrombil Llyfrgell Gyhoeddus Caerdydd.
Mae'r cyfan yn codi cwestiwn pwysig a sylfaenol: a oes gan y rhai sy'n penderfynu dyfodol y casgliadau ddigon o gydymdeimlad tuag at hen lyfrau ynghyd â digon o wybodaeth am y diwylliant printiedig? Mae gofyn i bawb sy'n coledd gwerthoedd dysg a llên fod yn wyliadwrus yn y misoedd i ddod.
Gwyn Briwnant Jones
|