Trefnwyd taith i Ddolgellau ar ddydd Mawrth, Ebrill y 9fed, i griw o ddisgyblion blwyddyn 11 oedd yn astudio nofel Marion Eames sef Stafell Ddirgel, ar gyfer TGAU. Cawsom ein tywys gan y Parchedig Hywel Wyn Richards a hyfryd oedd cael troedio'r llwybr serth i Frynmawr ar ddiwrnod mor braf a gweld yr ardal yn ei holl ogoniant.
Roedd y daith yn ein galluogi i ymweld â chapel y Crynwyr yn Nhabor, yr Eglwys yn y dref, Amgueddfa'r Crynwyr, lleoliad yr hen garchar ac Uffern Bach yn ogystal â'r holl gartrefi a enwir yn y nofel megis Plas yr Hengwrt, Dolgun a Dolserau.
Yn sicr bu'r daith yn gyfrwng i gyfoethogi adnabyddiaeth y disgyblion o'r nofel osod a'i chefndir.
Yn anffodus, nid oedd iechyd Marion Eames yn caniatáu iddi ymuno â ni. Rhaid diolch i Menna Lloyd Williams, Cyngor Llyfrau Cymru, am ein cynorthwyo â'r trefniadau ac i Mrs. Ann Thomas a Mrs. Ruth Evans am wirfoddoli i ddod gyda ni.
Taith i ardal Arfon
Ardal Arfon oedd cyrchfan disgyblion blwyddyn 12 a 13 ac yno y cynhaliwyd cwrs llenyddol ar eu cyfer am ddeuddydd yn ystod gwyliau'r Pasg.
Pwrpas y daith oedd ymweld â lleoedd sy'n gysylltiedig â'r testunau gosod a chael gwrando ar arbenigwyr yn y maes yn darlithio.
Roedd rhan gynta'r daith yn Abergwyngregyn ar gyrion Bangor ac yno cawsom gwrdd â Dafydd Glyn Jones.
Y ddrama Siwan oedd testun ei ddarlith ef a chawsom gyfoeth o wybodaeth ganddo am y cefndir hanesyddol cymhleth. Ystyriwyd ambell ddamcaniaeth ffres ac anogwyd y disgyblion i fynd ati i barhau â'r ymchwil.
Cyflwyniad ysbrydoledig
Braint oedd cael cwmni un o'n hysgolheigion pennaf ac fel y gellid disgwyl roedd y ddarpariaeth yn ardderchog a'r cyflwyniad yn ysbrydoledig.
Cyfoethogwyd y profiad fwyfwy oherwydd iddo ddarlithio i ni ar ben y Mwd sef un o'r safleoedd hanesyddol pwysig a gysylltir â Llywelyn Fawr
Cawsom groeso tywysogaidd ym Mhenybryn gan y perchennog a'r hanesydd Catherine Gibson-Pritchard. Roedd ei darlith yn ddiddorol a'i damcaniaethau'n rhoi digon o ddeunydd i ni gnoi cil am oriau!
Cyflwynodd yr ysgol Englyn iddi ar ein hymweliad ddwy flynedd yn ôl a braf oedd cael cyflwyno Englyn arall eleni o waith Iwan Rhys.
Aber Garth Celyn
Dan het gantel Llywelyn - ei esgyrn,
Ynghwsg, yw ein gwreiddyn
A hil Aber Garth Celyn
Ddaw'n ôl i ddihuno hyn.
I ddiweddu Taith Siwan ymwelwyd ag Eglwys Biwmares i weld yr arch.
Roedd gwledd yn ein haros yn nhafarn Y Gors Bach ym mhlwyf Llanddeiniolen nos Wener - na nid cyfeirio'n unig at y bwyd a wnawn ond at y cyflwyniad rhagorol a gawsom o'r nofel Un Nos Ola Leuad gan John Ogwen a Maureen Rhys.
Aros yn fyw yn y cof
Llwyddasant i gyflwyno golygfeydd allweddol o'r gyfrol a gwefreiddiwyd y gynulleidfa. Yn sicr dyma un o uchafbwyntiau'r daith a pherfformiad fydd yn aros yn fyw yng nghof y disgyblion am flynyddoedd i ddod.
Cawsom sesiwn o holi a gwerthfawrogwyd parodrwydd y ddau i ymateb mor onest wrth iddyn nhw drafod y llenor a'i waith.
Treuliwyd y dydd Sadwrn yng nghwmni'r Prifardd Ieuan Wyn ym Methesda. Yn ogystal â rhoi'r cefndir i'r Streic Fawr yn chwarel lechi'r Penrhyn a chyflwyno'r llenor Caradog Prichard, aeth ati i gyfoethogi adnabyddiaeth y disgyblion o'r nofel Un Nos Ola Leuad gan ein tywys ar daith drwy'r ardal.
Llwyddodd i greu map ym meddwl y disgyblion ac yn sicr bydd eu dealltwriaeth o un o nofelau gorau'r ganrif yn gan mil gwell yn sgil hyn.
Ysgrifennu eu hargraffiadau
Trafodwyd hunangofiant yr awdur hefyd ac anogwyd y disgyblion i fynd ati i ysgrifennu am eu hargraffiadau hwythau. Pleser oedd gwrando arno'n traethu mor rhwydd gan rannu'i arbenigedd gyda ni.
Diolchodd Iwan Rhys iddo a darllenodd gerdd o'i waith.
Un Nos Ola Leuad
Daw awel oer noson loerig
A sibrydion hwyr ysbryd y nos
I hymian heno eu hemyn unig
A'u hodlau hardd dan leuad dlos.
Hon yw'r nos sy'n hwyr anwesu,
Nid oes dyn i gadw stwr,
Ac wrth gerdded hawdd yw credu
Olwyn dân ar lan y dwr.
Ond ar y ffin mae gwedd brenhines
Yn ei nwyd er hwyr brynhawn,
Hon a'i gwên yn galw'n gynnes
Sydd heno'n dynfa dan leuad lawn.
Iwan Rhys (blwyddyn 13)
Hen gartref Caradog Prichard
Efallai mai un o'r pethau eraill fydd yn aros yng nghof y disgyblion yw'r ffaith fod mam Ieuan Wyn sy'n byw yn hen gartref Caradog Prichard Llwynnon wedi caniatáu i ni fynd i lawr i'r seler i weld lle'r oedd y tân y noson cyn angladd tad yr awdur.
Roedd Mrs. Evans yn barod yn ôl ei harfer i estyn croeso cynnes i ni i'w chartref ac i adrodd am ei hadnabyddiaeth hithau o'r llenor arbennig hwn.
Penderfynwyd ymweld â chastell Dolwyddelan ac roedd yr olygfa'n arbennig a hithau'n ddiwrnod mor braf.
Cawsom ddwy funud o dawelwch yno i gofio am dywysogesau Cymru megis Siwan, Elenor a Gwenllian a esgeuluswyd ac a anghofiwyd gennym ni'r Cymry! Taith lwyddiannus a chofiadwy yn wir!