Yn ystod gwyliau'r Pasg am bum niwrnod rhwng Dydd Mercher y l9eg a Dydd Sul y 23ain o Ebrill mwynhaodd aelodau C么r Meibion Mynydd Mawr, eu gwragedd a ffrindiau'r c么r a deithiodd gyda ni drip hyfryd i Ddulyn yn Iwerddon, un o brif ddinasoedd hyfrytaf Ewrop.
Mewn dau goets Cwmni Bysus Brodyr Williams, fe'n cludwyd yn ddiogel gydol y daith, yn gyntaf oll i Gaergybi ar y dydd Mercher lle gwnaethom ddal y fferi cyflym i Dun Laoghaire, ac yna ar y Sul, o gyffiniau Dulyn i Rosslare lle gwnaethom ddal fferi oddi yno am 9.00 o'r gloch yr hwyr ac wedyn yn oriau cynnar bore Llun teithio 'n么l yn ddiogel o Abergwaun i Gwm Gwendraeth. Safasom am bedair noson yng Ngwesty moethus Rocheston Lodge yn Dun Laoghaire gan fwynhau ymweliadau oddi yno yn 么l ac ymlaen i ganol dinas Dulyn.
Ar y dydd Iau, yn ystod y bore buom yn ymweld ag un o'r sefydliadau sydd wedi dod 芒 chryn enwogrwydd i Ddulyn ac Iwerddon ar draws y byd sef y Ffatri Guinness enwog, cartref gwin y gwan sydd 芒'i flas bob amser yn llawer mwy dymunol yn ei gynefin. Wedi crwydro o gwmpas y ffatri a chael ein tywys drwy hanes y lle a'r broses o gynhyrchu'r Guinness, roedd pawb yn cael esgyn i'r llawr uchaf gan gael y cyfle i flasu gwydriad peint o Guinness neu ddiod ysgafn yn 么l eu dewis, gan fwynhau'r ddiod wrth syllu oddi yno ar olygfeydd panorama a 360 gradd o'r ddinas a'r bryniau o'i chwmpas. Wedi'r ymweliad 芒 ffatri enwog, roedd y prynhawn a'r nos yn rhydd i bawb fwynhau yn 么l eu dewis.
Ar y dydd Gwener, yn ystod y dydd, mewn tywydd braf a gawsom gydol y daith, aethom am daith drwy fynyddoedd Wicklow. Wedi mwynhau golygfeydd o'r wlad a'i harddwch cynhenid dychwelasom i d欧 a gerddi Powerscourt yn Enniskerry am luniaeth ysgafn yn y clwb golff yno. Ni chawsom weld y gerddi na chwarae golff ar y cwrs yno! Ond, wedi gweld y lle a'i leoliad wrth droed y mynydd 'Sugar Loaf', o ymweld 芒'r lle eto. Mae'n amlwg y bydd eisiau diwrnod llawn yno y tro nesaf.
Uchafbwynt y daith a'r ymweliad oedd y gyngerdd ar y Nos Wener yng nghwmni C么r Meibion Cymraeg Dulyn yn Eglwys Sant Paul yn Glenageary yn Dun Laoghaire. Cymro glan a brodor o'r Hendy oedd arweinydd C么r Dulyn sef Keith Young, ac fe arweiniwyd C么r Meibion Mynydd Mawr gan y brawd Caradog Williams o Borth Tywyn, sef ein harweinydd gwadd ar gyfer y daith. Cyfeilyddion y ddau g么r oedd y brawd John Shera a'r chwaer Eleri Jones o Bontyberem. Uchafbwynt y gyngerdd oedd cael y ddau g么r yn ymuno i ganu 'Gwahoddiad, 'Holy City' yng nghwmni'r soprano Teresa Carley, a 'Morte Criste' cyn gorffen gyda'r anthemau cenedlaethol Hen Wlad Fy Nhadau a Amhran na bhFiann yn gampus iawn yn yr iaith Wyddeleg.
Hyfrydwch pur oedd cael canu i eglwys oedd yn orlawn ar y noson gan gynorthwyo Eglwys Sant Paul i godi arian tuag at Brosiect Ysbyty Kisiizi yn Uganda.
Ar y dydd Sadwrn, roedd y diwrnod yn rhydd gyda'n gyrwyr yn cael y diwrnod i ymlacio. Bu'n rhaid defnyddio'r gwasanaethau lleol i deithio yn 么l ac ymlaen i Ddulyn. Yn hwylus iawn roedd gorsaf fws y tu allan i'r gwesty a modd dal y tr锚n o Dun Laoghaire. Yn naturiol, bu rhai'n siopa, manteisiodd rhai ar y cyfle i ymweld 芒 Phrifysgol Trinity gan weld y Llyfr Kells enwog, un o drysorau cenedlaethol Iwerddon, tra mwynhaodd eraill deithiau o gwmpas y ddinas yn y bysus melyn awyr agored gan fwynhau sylwadau llawn hiwmor y Gwyddel wrth gael eu tywys o amgylch y ddinas.
Yna ar y Nos Sadwrn cawsom fwynhau Noson Lawen Gymraeg a Gwyddelig yng Nghlwb Rygbi Palmerston i'r de o Ddulyn. Yn nhraddodiad y Gwyddelod, er bod y noson yn hwyr yn cychwyn, roedd yn llawn hwyl a chanu afiaethus erbyn y diwedd, gyda'r ddau g么r ac unigolion yn rhoi eitemau un ar 么l y llall, ynghyd 芒 gwrando ar ddigrifwyr yn rhannu j么cs, ac yn eu plith Carwyn Lloyd o Drefach.
Bu'r ddau g么r cyn diwedd y noson yn cyflwyno rhoddion i'w gilydd ac un o'r uchafbwyntiau fydd yn sefyll yn y cof am amser hir, oedd dawn ein harweinydd gwadd Caradog Williams yn trafod y ffidil. Gyda'i gyfeilio meistrolgar ar y ffidil cadwodd y noson i fynd gan lwyddo i greu hwyl neilltuol nad oedd neb o G么r Meibion Mynydd Mawr na'n cyfeillion o Ddulyn wedi breuddwydio ei gael. Ac megis roeddem yn ddyledus iddo am roi'r fath hyder i'r c么r wrth ein harwain yn y gyngerdd y noson cynt, roedd ein dyled a'n hoffter o'i arweiniad a'i gwmni gymaint yn fwy wedi hwyl y Noson Lawen.
Diwrnod i deithio adref oedd y Sul. Wedi gadael y gwesty canol dydd teithiasom i Wexford gan dreulio'r prynhawn yno cyn teithio ymlaen i Rosslare. Wrth gloi'r adroddiad, yn ychwanegol i ddiolch i Caradog Williams ac Eleri Jones, ein harweinydd ar y daith a chyfeilydd y c么r, rhaid diolch i Royston Jones a John Williams. Ysgrifennydd a Thrysorydd y c么r am eu holl waith yn paratoi a threfnu'r ymweliad. Ac wrth ddiolch am gwmni cyfeillion mor ddymunol ar y daith wedi taith ac ymweliad mor llawn a hapus, gwir y dywedodd y Cadeirydd Emyr Gwyn Evans, wrth ddiolch ar y ffordd adref, 'melys moes mwy'.