Mae'r clwb wedi gweld llawer o newidiaeth ar hyd y cyfnod. Breuddwyd oedd y clwb rygbi i un chwaraewr sef Michael Thomas, ac ef aeth o amgylch y pentre yn cnocio ar ddrysau i ofyn am chwaraewyr ac yn y blaen. Nid oedd gan y clwb ar y dechrau, ddim adnoddau, dim lle i chwarae, dim `kit' ac wrth gwrs dim arian. Cafwyd cyfarfod yn Neuadd Mynydd-y-garreg a daeth llawer ynghyd i ddechrau clwb ym mis Mai 1985.
Bu Clwb Rygbi Pontiets yn garedig iawn drwy ganiatau i'r gemau 'cartref' gael eu
Symudwyd ymlaen i gael 'pencadlys' yn Nhafarn y 'Prince of Wales' ym Mynydd-y-garreg ac yno bu'r cyfarfodydd am beth amser. Yna drwy haelioni y Llywydd, Cyril Williams, cafwyd 'portocabins' a phrynwyd cae ym Mharc Gwenllian a dyna ddechrau addawol. Doedd yna ddim trydan a phrynwyd generodwr i gyflenwi trydan. Mae rhai yn y clwb heddiw sydd â'r ddawn i droi olwyn dechrau'r ' genny' ! !
Drwy gynnal cyfarfodydd codi arian, haelioni ffrindiau a noddwyr
cafwyd trydan i'r cae a'r adeiladau. Gweithiwyd yn ddygn iawn gan fand o wirfoddolwyr a gwelwyd y ffordd yn glir i gael cawodydd ac ystafelloedd newid i wneud bywyd y chwaraewyr brwd yn fwy boddhaol. Y prif weithredwr yn y cynllun hwn oedd aelod oes, Arthur Lewis, ac iddo ef a'i griw o wirfoddolwyr mae diolch mawr. Aeth y clwb ymlaen o nerth i nerth ac o'r diwedd cafwyd gwared ar y
portocabins', oedd wedi gwneud gwasanaeth da iawn a phenderfynwyd adeiladu Clwb newydd a chegin ac ystafell pwysau. Arthur Lewis oedd y 'clerk of the works' eto!
Mae pob gwasanaeth yn y Clwb yn cael ei wneud yn wirfoddol a dyna yn bennaf sy'n gyfrifol am lwyddiant y Clwb. Mae rhai chwaraewyr yn chwarae hyd heddiw ac mae pawb fel un teulu mawr.
Mae llawer iawn a allai gael eu henwi ond y trwbwl yw ofn gadael rhywun allan yn anfwriadol. Ar y cae chwarae lan a lawr yw'r hanes. Maent wedi cael anrhydeddau lawer a llawer iawn o bosibl i ddod eto. Cadw gyda'n gilydd yw prif nod y clwb a chadw'n hapus.
Llywydd - Cyril Williams
Cadeirydd - Wyn Smith
Aelodau Oes - Ray Gravell, Arthur Lewis, Fred Smith
Ysgrifennydd Gemau - Huw Walters
Trysorydd- Mike Baxter
Ysgrifenyddes - Eirlys Evans
|