Yn ôl Huw Daniels, cadeirydd Rhanbarth Llanelli: "Gwendraeth oedd y meistri yn y sgrym, gyda blaenwyr mwy cryf dan arweinyddiaeth Chris Cray, blaen-asgellwr Cydweli, yn gosod sylfaen i fuddugoliaeth ysgubol." Dyffryn Aman gafodd y cyfle cyntaf i agor y sgorio ar ôl dim ond chwe munud, pan gafodd blaenwyr y Gwendraeth eu cosbi mewn ryc. Fodd bynnag, llithrodd cic gosb Matthew Ladd, maswr Penybanc, o dan y trawsbost. O flaen tyrfa sylweddol yn mentro'r tywydd glawog, bu blaenwyr Cwm Gwendraeth yn pwyso'n gyson am gyfnod ac nid syndod pan wthiodd Richard Samuel, bachwr Trimsaran, ei ffordd drosodd am gais gynta'r gêm i roi ei dîm ar y blaen. Trosiodd ei frawd, y canolwr Matthew, a llwyddodd hefyd i drosi cais gyntaf wythwr Pontyberem, Delfryg Treharne, ddeg munud yn ddiweddarach. Atebodd Dyffryn Aman gyda chais Chris Davies, asgellwr Penybanc, a droswyd gan y maswr Matthew Ladd gan dorri'r bwlch i saith pwynt ar ôl yr egwyl. Parhaodd blaenwyr Cwm Gwendraeth i feistroli yn yr ail hanner, a gwthiodd Delfyg Treharne drosodd am ei ail gais. Yna tro'r olwyr oedd hi wrth i wibiwr Pontyberem, Hefin Jones, groesi yn y cornel i wneud y sgôr yn 24 - 7. Daeth cais ola'r gêm i Matthew Davies, mewnwr Cydweli, a chwaraeodd yn gyson dda drwy'r gêm Trosiodd Matthew Samuel gyda'i drydedd gic lwyddiannus i wneud y sgôr terfynol yn Cwm Gwendraeth 31, Dyffryn Aman, 7.
|