91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Wilia
Rhai o'r buddugwyr Eisteddfod Gadeiriol y Tymbl
Tachwedd 2004
Hanes Eisteddfod Gadeiriol y Tymbl, Dydd Sadwrn, Medi 18, 2004
Do, fe gawsom unwaith eto Eisteddfod i'w chofio. Bu'n llwyddiannus a mawr yw'n diolch i'r cystadleuwyr i gyd am ein cefnogi. Hynod iawn y flwyddyn hon oedd gweld cymaint o'n hieuenctid yn cystadlu a rhoi i ni wledd yn ystod sesiwn yr hwyr.

Mi wnaeth y ddau feirniad Mr. R Allan Fewster a'r Parch. John Gwilym Jones ddatgan eu bod wedi cael eu boddhau a'u plesio yn fawr gyda safon y cystadlu. Mrs Gloria Lloyd, Rhydaman oedd y cyfeilydd ac mae wedi bod gyda ni'n ddi-dor am 27 o flynyddoedd bellach. Da iawn Gloria.

Beirniaid gwaith yr ysgolion oedd : Barddoniaeth/Storïau - Fonesig Sian Elfyn Jones; Arlunio - yr artist Ieuan Rees; Dawnsio Disgo - Matthew McAvoy.

Bardd y Gadair oedd Mr Len Richards, Nantgaredig. Derbyniodd gadair hardd 'carver' ynghyd â gwobr ariannol. Hefyd bu plant Ysgol y Tymbl yn dawnsio yn ystod y seremoni ac yn cyflwyno iddo lamp fechan glöwr.

Diolch i'r Pennaeth a'r athrawon am drefnu hyn a pharatoi y plant mor odidog a thrylwyr. Arweinydd y seremoni oedd y Parch. Emyr Gwyn Evans a bu'r cyfan yn urddasol. Canwyd y cornet gan Hefin Jones, Llanarthne; y delyn gan Bethan Williams. Y cyrchwyr oedd Ken, Morwena a Janet, cyfarchwyd y bardd gan Meleri Haf Williams ac Emyr Wyn Thomas a chanwyd cân y cadeirio gan Richard Thomas, y Trysorydd.

Cawsom gwmni Llywydd y Dydd Mr. Emyr Wyn Evans, drwy'r prynhawn ynghŷd â'r tri mab, Siôn Ifan, Twm a Guto. Roedd ei briod Siwan yn methu â bod gyda ni oherwydd prysurdeb ei gwaith. Hyfryd oedd gwrando ar Emyr yn dweud cymaint oedd yn gwerthfawrogi'r fraint o fod 'nôl yn y Tymbl, pentre' ei eni a'i fagwraeth hyd at ddeg oed.

Diddorol oedd ei glywed yn cyfeirio at lawer digwyddiad yn Ysgol y Tymbl a'r hwyl a gafodd yno, hefyd hanesion oedd yn dod â gwên i'n hwynebau. Braf oedd cael eu cwmni.

Arweinyddion y dydd oedd Cadeirydd y Pwyllgor, y Parch Emyr Gwyn Evans,Mri. Gareth Rees, Roy Evans a'r Cynhorydd Neil Baker.

Bu aelodau o fudiad lleol Merched y Wawr yn ddyfal gyda'r lluniaeth a gwerthfawrogwn hyn eto yn fawr. Er bod Mrs. Elsie Evans, Blodau'r Cwm, yn yr ysbyty fe wnaeth yn siŵr fod llwyfan y Neuadd wedi ei addurno gan flodau hardd, Siân ei nith yn gyfrifol drosti.

Diolch iddynt a dymunwn wellhad buan i Mrs. Evans. Diolch i stiwardiaid y dydd ac i staff y Neuadd am baratoi'r cyfan ar ein cyfer. Mae pob peth yn cyfrannu at lwyddiant yr Å´yl flynyddol.

Mae rhestr y buddugwyr yn rhifyn Tachwedd o Papur y Cwm.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý