Mae cwmni enwog a thalentog 'First Night' wedi cytuno i gynnal noson yn y Neuadd ac mae'n argoeli i fod yn noson wych.
Grŵp cabaret o ardal Llundain yw `First Night' sy'n arbenigo mewn canu close harmony, ac fe fydd y noson yn cynnwys caneuon o sioeau cerdd y West End yn ogystal â musicals Hollywood a jazz a pheth opera yn ogystal.
Mae'r artistiaid sy'n perthyn i'r cwmni yn perfformio ar hyn o bryd ar lwyfannau'r West End yn Llundain mewn sioeau fel Les Miserables, Cats. Phantom of the Opera, Sunset Boulevard a Beauty and the Beast. Mae rhai o'r cwmni wedi bod yn gweithio ac yn perfformio gyda chwmnïau operatig ar draws y byd.
Ym Mhontyberem bydd y cwmni yn perfformio eu sioe llawn, sef First night on Broadway. Byddant yn perfformio `medleys' o'r sioeau mawr fel Les Miserables a Miss Saigon, The King and I, a llawer mwy ynghyd â chaneuon ar themâu arbennig.
Mae'r caneuon wedi eu trefnu yn benodol ar gyfer `First Night' gan Simon Gray, cyfarwyddwr cerddorol y cwmni ac yn ogystal a'u clywed yn fyw ar y noson fe fyddant yn gwerthu copïau o'u CD diweddaraf hefyd.
Cysylltiad â'r Cwm
Mae yna gysylltiad â'r Cwm gan fod merch yng nghyfraith Gwilym a Hefina Davies, Cysgod y Dderwen, Capel Scion, sef Paula Scott, wedi bod yn aelod o'r grŵp am sawl blwyddyn. Er fod Paula erbyn hyn wedi ymgartrefu yng Nghymru ac yn gweithio ar hyn o bryd gyda Chwmni Opera Cymru, fe fydd hi yn ymuno â'r cwmni unwaith eto ar y noson fel gwestai arbennig.
Mae'n argoeli i fod yn noson fawreddog yn Neuadd Pontyberem a phobl eisoes yn gofyn am docynnau. Mae'r tocynnau ar werth yn Neuadd Pontyberem a thrwy Swyddfa Menter Cwm Gwendraeth. Pris y tocyn yw £7 gyda gostyngiad i blant a'r henoed. Fe fydd y Neuadd yn siŵr o fod yn llawn felly peidiwch a chael eich siomi - archebwch eich tocynnau yn awr.
|