Rhwng dechrau Hydref a chanol Tachwedd, bydd cyfle i drigolion Cwm Gwendraeth ddysgu rhagor am waith y Llyfrgell Genedlaethol. Y gobaith yw y bydd modd cynnal arddangosfeydd, gweithio mewn ysgolion, cynnal sgyrsiau a darlithoedd, dangos ffilmiau - y cyfan yn tynnu sylw at bwysigrwydd yr ardal yng nghasgliadau amrywiol y Llyfrgell.
Yn ddiweddar, bu Arwel Jones o'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth yn cyfarfod gyda Deris Williams o Fenter Cwm Gwendraeth i drafod syniad y Llyfrgell o drefnu cyfres o ddigwyddiadau yn yr ardal yn ystod gaeaf 2009.
"Rwy'n edrych ymlaen yn arw at y misoedd nesaf," meddai Arwel, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyhoeddus y Llyfrgell, "ac at ddod i adnabod pobl ac ardal newydd a chael cyfle i gyflwyno trysorau'r Llyfrgell i drigolion Cwm Gwendraeth."
Bydd y gweithgaredd yn dod i ben ar nos Iau 12 Tachwedd gyda noson o gyflwyniadau a thamed i'w fwyta yng nghwmni Llywydd y Llyfrgell, y Bnr Dafydd Wigley. Croeso mawr i bawb - nodwch y dyddiad yn y dyddiadur!
Bydd rhagor o drafodaethau yn digwydd gyda gwahanol gymdeithasau ac unigolion yn ystod y gwanwyn. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, cysylltwch â Deris yn y Fenter.
|