Mae'r tîm Cyfarwyddo dan arweiniad Carys Edwards, Gwenda Owen a Marie Seymour. Mae ieuenctid yr ardal yn heidio i arferion a hynny ar gyfer canu, dawnsio, llefaru, meimio, coluro a llawer mwy! Fe fydd ein pobl ifanc yn ein harwain mewn ffordd fentrus a bywiog iawn ar daith bywyd gan gofio am erchylltra'r byd sydd o'n cwmpas. "Mae'r gerddoriaeth yn fodern a bywiog ac rydym yn cael llawer o hwyl," ategodd Emma Sullivan o Bontyberem. "Mae'n sioe sy'n codi hwyl gyda stori gref ac yn ein hatgoffa ni gyd o'r hyn sydd yn digwydd," nododd Aled Thomas, Drefach. Mae pobl ifanc o wahanol ardaloedd o'r Cwm yn manteisio ar y cyfle i ddod at ei gilydd ac yn cael cyfle i gymdeithasu, dysgu a joio! Mae'r drysau ar agor a chyfle i fwy o ieuenctid 10+ i ymuno yn yr hwyl! Fe fydd dau berfformiad o'r Cyflwyniad yn Neuadd Pontyberem ar 11 Mehefin a 18 Mehefin gan gychwyn am 7.30 o'r gloch. Archebwch eich tocynnau o Swyddfa Menter Cwm Gwendraeth 01269 971600. Cofiwch - cyntaf i'r felin!
|