A chithau'n dechrau ymlacio a meddwl, "O ffiw, dim rhagor o sôn am Batagonia," dyma fi'n bostio eich balwn fach chi'n sydyn reit ar ddechrau'r flwyddyn fel hyn.Tra roeddwn yn yr Ariannin yn gweithio yn y Cymunedau Cymraeg ar brosiect 'Dysgu Cymraeg yn y Wladfa' roeddwn yn awyddus iawn i rannu fy mhrofiadau fel rhywun a oedd yn byw yn yr ardal lle dechreuwyd y Fenter Iaith Gyntaf yng Nghymru. Rhaid i mi gyfaddef fy mod wedi cael tipyn o sioc pan ystyriais nad oeddynt yn gwybod dim am y Mentrau Iaith o gwbl heblaw am un neu ddau unigolyn yn Y Dyffryn. Yr unig ffordd roedd rheini yn gwybod amdanynt oedd achos eu bod wedi cwrdd ag ambell deithiwr/wraig oedd yn gweithio i Fenter Iaith.
Gan nad yw'r teithiwr cyffredin yn gallu treulio llawer o amser mewn un lle yn arbennig, prin felly oedd y cyfle wedi bod i roi unrhyw wybodaeth am beth oedd Menter Iaith. Hefyd roedd y mwyafrif o'r bobl yr oeddynt wedi cwrdd â nhw - a oedd â chysylltiad gyda'r iaith, yn athrawon yn y Gymraeg. Er bod pobl o Gwm Gwendraeth wedi bod allan yn Y Wladfa ni chawsant y cyfle siwr o fod, i sôn am y Fenter.
Addysgu am draddodiadau Cymru
Beth bynnag, tra bum yno roeddwn yn trio fy ngorau i addysgu'r trigolion am hanes a thraddodiadau Cymru, ei daearyddiaeth a'n harferion yn ogystal â throsglwyddo ac ymestyn eu profiadau ieithyddol. Mewn ambell grwp rhaid oedd canolbwyntio ar yr iaith yn unig, gan mai elfennol oedd eu gwybodaeth os oedd ganddynt wybodaeth o gwbl, ond roedd yna grwpiau gloywi oedd yn hapus i ymarfer ac ehangu ar eu geirfa wrth fynd ati i daclo erthyglau a darnau darllen mwy eang eu hapêl.
Mewn rhannau o'r Wladfa lle nad oedd cymaint o deithwyr o Gymru wedi bod yn ymweld, roedd y trigolion yn dangos ffafriaeth i drin a thrafod pynciau mwy traddodiadol a chyfarwydd. Yn ddigon naturiol (a dealladwy o edrych yn ôl!) byddai'n llawer gwell ganddynt sôn am ardaloedd arbennig o Gymru lle roedd ganddynt deulu. Roedd ambell un wedi bod yng Nghymru ac am sôn am y lle hwnnw a'u profiadau yno yn hytrach na dysgu am rywle newydd. Ar y pryd gwnai hyn i mi deimlo braidd yn rhwystredig, ac ar fy adegau mwyaf hiraethus deuthum i gasau clywed sôn am ambell i le!
Beth bynnag gydag amser (a llawer o gnoi tafod) deuthum i weld y peth am beth ydoedd, sef cariad at rywle yng Nghymru lle y bu iddynt dderbyn croeso mawr pan fuont draw ar ymweliad. Wrth gwrs roedd man geni eu cyndeidiau yn mynd i fod yn annwyl iawn iddynt ac yn agos at eu calon, ac felly roedd yn ddigon dealladwy eu bod wedi sancteiddio'r lle i ryw raddau.
Beth bynnag, yn ffodus i mi fe ddes i ar draws pobl yn ystod y flwyddyn oedd wedi cael profiadau ehangach o fywyd ac o Gymru. Roedd y bobl hyn yn gallu gwrando arnaf yn sôn am fy ngwreiddiau i yng Nghymru ac yn sgil hynny roeddwn yn gallu symud ymlaen i sôn am weledigaeth pobl Cwm Gwendraeth dros ddeng mlynedd yn ôl. Wrth gwrs roedd gan rai o deuluoedd y Dyffryn fwy o ddiddordeb byth wedi clywed fod y peth wedi tyfu allan o'r ffaith i Eisteddfod yr Urdd ymweld â'r Cwm. (Mae Elvey MacDonald, sef cyn-drefnydd Eisteddfod yr Urdd, yn dod yn wreiddiol o Ddyffryn Camwy ac mae ganddo lawer o deulu yno o hyd.)
Adnabod Gwenda a Gaynor
I helpu'r achos roedd gen i gopi o Y Cyffro yn y Cwm' a anfonwyd allan i mi gan Deris Williams. Roedd adnabod ambell i wyneb enwog megis Caryl Parry Jones a Dafydd Iwan, yr oedd pawb yn ei adnabod, yn help i dynnu sylw. Eto oherwydd cysylltiad teulu'r MacDonalds y tro hwn ym mherson Hector Ariel MacDonald roedd yna adnabyddiaeth o Gwenda a Gaynor oherwydd bod y ddau deulu wedi cystadlu yn erbyn ei gilydd adeg Cân i Gymru 2001 a bod cysylltiadau wedi bod cyn hynny oherwydd byd y gân.
Gan fod cymaint o luniau yn y llyfr, doedd neb yn diflasu gyda gormodedd o ddarllen manwl ac roedd y ffaith fod llun cartref yr athrawes ar y clawr yn golygu fod y llyfr yn cael ei dynnu oddi ar silffoedd llyfrgell yr ysgol yn gyson hyd yn oed os nad oedd yn cael ei ddarllen o glawr i glawr!
Roedd hi'n gêm gan rai i 'sbotio Elen' yn y llyfr sydd ddim yn gêm rhwydd i ddweud y gwir gan fy mod wedi gwisgo fel cymeriad mewn drama ym mhob llun ac felly nid yn fi fy hun go iawn yn un ohonynt.
Ein grwp ni o athrawon oedd y grwp olaf ond un i fedru cael y cyfle o dderbyn y profiad arbennig hwn oni bai i grant newydd gael ei dderbyn, ac roeddwn yn digalonni o weld gwaith caled yr holl gyn-athrawon (gwirfoddol a swyddogol) yn diflannu os na fyddai parhâd i'r gefnogaeth ariannol o Gymru. I ddweud y gwir gallwn weld llawer o debygrwydd rhwng gwaith y prosiect a gwaith y Mentrau Iaith.
Dechreubwynt y prosiect oedd yr iaith Gymraeg adosbarthiadau, ond fel yr ehangodd gwaith y Mentrau Iaith i gwmpasu bron pob agwedd o fywyd felly hefyd roedd yn rhaid i waith yr athrawon yn Y Wladfa.
Roedd y sefyllfa economaidd arswydus a ddatblygodd yn ystod ein harosiad yn 2001-02 wedi effeithio'n arbennig ar y dosbarthiadau a bu rhaid i ni ddatblygu strategaeth i drïo achub y niferoedd oedd yn dod i'r dosbarthiadau trwy gymryd i ystyriaeth sefyllfa teuluoedd unigol a chynnig pecynnau gwahanol i'r gwersi arferol a ffordd wahanol i dalu am y gwersi. Roedd fy mhrofiad fel cyfarwyddwr Menter Cwm Gwendraeth a gweld fel roedd y swyddogion a staff y Fenter wedi gorfod addasu a bod yn hyblyg er mwyn cael y gorau i'r Iaith a'r Gymuned, yn fy helpu i feddwl mewn ffordd wahanol. Roeddwn yn ffodus hefyd i gael staff rhan-amser a gwirfoddolwyr at bwyllgorau'r ysgolion a oedd yn adnabod gofynion eu cymunedau gwahanol ac yn gallu ymateb iddynt yn y ffordd fwyaf addas.
Mewn gwirionedd Mentrau Iaith oedd pwyllgorau'r ysgolion ond bod dim digon o amser gan un aelod o staff i ddiwallu gofynion dosbarth, capel a chymuned, serch roedd yn rhaid anelu at wneud hyn. Yn fy marn i dylid anfon i bob tref yn Y Wladfa, weinidog, athro/ athrawes a swyddog datblygu ac nid un person i wneud gwaith y tri mewn ardal eang. Dim ond bryd hynny y gellid gweld datblygiad sylweddol yn y niferoedd sy'n siarad Cymraeg heb golli'r cnewyllyn cadarn o siaradwyr sydd yno'n barod.