Roedd yn noson lwyddiannus iawn gyda'r cyfan dan ofal Ifan 'JCB' Davies a'r côr yn canu'n ardderchog dan faton y rheolwr cerdd, Ann Davies. Bu Ann hefyd yn unawdydd ynghyd â'r tenor John Davies a'u lleisiau hyfryd yn denu cymeradwyaeth dwymgalon oddi wrth y gynulleidfa. Bu cymeradwyaeth hael hefyd i blant ysgol Cross Hands a ddangosodd eu talentau cerdd gyda nifer o eitemau.
Yn eu anerchiad hanner amser, cafwyd hanes y côr gan Lywydd y Noson, Lynn Roberts, a fu'n gyfrifol am sefydlu'r côr in 1987 i gefnogi Eisteddfod yr Urdd, Cwm Gwendraeth. Bu Lynn yn arwain y côr am 17 mlynedd hyd ei ymddeoliad in 2004.
Roedd y cyngerdd hefyd yn codi arian i Ymddiriedolaeth Cancr mewn leuenetid ac esboniodd cadeirydd y Pwyllgor Gwaith yng Nghymru, Eiddwen Evans, am waith yr ymddiriedolaeth a'i hymdrechion i genfogi'r Uned Cancr yn Ysbyty Prifysgol Cymru, Caerdydd. Estynnodd ddiolch i bawb a fu'n rhan o lwyddiant y noson. Yr Ysgrifennyddes, Megan Squires, siaradodd ar ran y côr i estyn diolch i bawb a gyfrannodd at lwyddiant y noson.
Eitem ola'r cyngerdd oedd deuawd hwylus iawn 'Hywel a Blodwen' rhwng Ann Davies a John Davies a chyn gorffen rhoddwyd cymeradwyaeth hefyd i gyfeilyddes y côr, Eirwen Evans a'r cyfeilydd gwadd, Gareth Wyn Thomas.
Yn dilyn ymdrechion pawb ar y noson, rhoddwyd £500 i Ymddiriedolaeth Caner mewn leuenctid. Diolch yn fawr iawn i bawb a gefnogodd y noson.
|