Ffarweliodd plant `Corlan y Plant' ac Ysgol Sul Penrhiwgoch a'u gweinidog y Parchedig Vincent Watkins, Treforys neu fel y'i gelwir ganddynt, Wncwl Vince.
Braf oedd croesawu dros 30 o aelodau presennol a chyn aelodau'r Gorlan a'r Ysgol Sul, teuluoedd y plant, ei briod Anti Brenda a'n hen ffrind o Alabama, Ben Nuss sydd wedi ymgartrefu bellach ym Mangor.
Talwyd teyrnged iddo gan un o athrawesau'r Ysgol Sul a'r Gorlan sef Elin Harris. Cafwyd yr hanes ganddi am y gwaith clodwiw, bugeiliol ac adeiladol sydd wedi digwydd yn ystod ei 13 blynedd o wasanaeth ym Mhenrhiwgoch. Nododd y gwaith a wnaethpwyd ganddo yn bennaf gyda'r plant a phobl ifanc yr ardal, y cysylltiad a wnaethpwyd o'r cychwyn gydag ysgolion cynradd Maesybont a Llanarthne, ac erbyn hyn fel Llywodraethwr ym Maesybont.
Rhestrodd Elin beth o'r gwaith a gyflawnwyd ganddo, sef atgyfodi'r Ysgol Sul trwy gymorth Nigel Davies o Gyngor yr Ysgolion Sul ac wrth wneud hyn cafodd y plant gyfle i fynychu gwersylloedd yr Urdd yn Llangrannog ac ym Mhentywyn yn flynyddol. Cychwynnodd Gorlan y Plant yn fisol trwy groesawu siaradwyr, hefyd, trip bws mini adeg y Nadolig i ganu carolau o amgylch yr ardal. Trefnodd yn flynyddol wasanaeth carolau yn y capel o dan olau canhwyllau gyda phlant Ysgol Maesybont yn perfformio eu pasiant a chroesawu trigolion yr ardal a'u rhieni a braf oedd gweld y capel dan ei sang bob blwyddyn.
Dymuniadau gorau iddo ym mis Medi wrth ddechrau ar ei weinidogaeth yng Nghapel Carmel, Pontlliw - cofiwch mae'n nhw'n aelodau lwcus iawn! Gwelir yn y llun uchod holl blant y Gorlan a'r Ysgol Sul, a chyn aelodau, Elfin Harris, athrawes, Mrs. Brenda Watkins (Anti Brenda), y Parchedig Vincent Watkins a Ben Nuss.
|