Seren y noson oedd Catrin Finch ond fe gafodd gwmni disglair Rhys Taylor ar y clarinet a Dewi Ellis Jones ar yr offerynnau taro. Roedd yr arlwy yn un diddorol gyda chyfle i'r tri ohonynt i ddangos eu dawn a'u bwrlwm creadigol. Ar ôl i Catrin ddechrau'r gyngerdd gyda dau ddarn, un o waith Carlos Salzedo, ac un gan Debussy perfformiodd Dewi Ellis Jones yn drawiadol ar yr offerynnau taro. Roedd y llwyfan yn llawn o offerynnau cyfarwydd ac egsotig a'r cerddor wedi dangos ei fod yn feistr ar y cyfan gan gynnig blas i ni ar waith Evelyn Glenni a Mattius Schmitt ymhlith eraill.
Roedd Catrin yn serennu fel arfer, roedd ei dehongliad o'r Carnival De Venise ar ddechrau'r ail hanner yn wefreiddiol ond fe wnes i fwynhau ei phortread o un o ddarnau Paul Patterson sef `Bugs! Mosquito Massacre'. Dyma Catrin Finch ar ei gorau yn dehongli yn rhydd ac yn wreiddiol.
Yr oeddwn yn edrych ymlaen i weld beth fyddai'r finale i'r cymysgwch offerynnau yma. `The arrival of the Queen of Sheba' oedd y diweddglo a chafodd neb ei siomi.
Roedd y gyngerdd yn wefreiddiol o'r dechrau i'r diwedd a'r gynulleidfa ar ei thraed ar y diwedd wrth gymeradwyo er mwyn dangos eu gwerthfawrogiad o safon ac amrywiaeth cyngerdd a fydd yn aros yn y cof. Edrychwn ymlaen at groesawu Brenhines y Delyn yn ôl i Bontyberem yn fuan.
|