Roedd y trefniadau teithio yn nwylo Elwyn Jones o'r Crwydriaid, gyda Gwyn Parri o Ddeiniolen yn gyfrifol am drefniadau'r penwythnos yn y Gogledd. Cyrraedd gwesty y Ciali' erbyn cinio nos Wener, a chael croeso arbennig gan Robert a Carys y perchenogion ac yn wir cafwyd croeso twymgalon Cymreigaidd gan gwsmeriaid y Ciali a phawb yn siarad Cymraeg. Pleser mawr oedd cymdeithasu gyda hwynt a theimlo ar unwaith fod amser diddorol a hapus o'n blaen. Mae'r Ciali, neu Y Califfornia' i roi enw cywir y gwesty ym mhentref Brynteg, gerllaw Benllech, ac o fewn cyrraedd pentref hanesyddol glan y môr Moelfre.
Roedd Carys a'i staff wedi paratoi cinio blasus dros ben i'r criw erbyn iddynt gyrraedd ar ôl eu siwrnai o'r de. Mae'n rhaid cydnabod gyrrwr mentrus y bws, sef Haydn Scaife, sydd yn yrrwr datblygedig, ac efe fu wrth y llyw dros y cyfnod. Codi'n gynnar fore Sadwrn ac ar ôl mwynhau brecwast Cymreigaidd gyda Carys, cyfarfod â'r gogleddwr enwog J. O. Roberts, a oedd wedi ei benodi i'n tywys i safleoedd arbennig o ddiddorol ym Môn. Mae pawb yn adnabod 'J.O.' fel actor a hefyd tad Nia sydd yn adnabyddus ar Radio Cymru a S4C, a Gareth, cyflwynydd Y Clwb Rygbi' ar S4C. Ar unwaith teimlwyd yn gyfforddus yng nghwmni cyfeillgar J.O.
Ar ôl teithio a gweld safle yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanbedrgoch ym 1999, cyrraedd Afon Menai a chroesi i Ynys Tysilio i fynwent Eglwys Sant Tysilio, sydd yn dyddio o'r bymthegfed ganrif. Yn y fynwent mae beddau rhai o Gymry enwog yn cynnwys Cynan (1895-1970) a'r 'Bardd Cocos' sef John Evans, a fu farw ym 1888.
Gadael Ynys Tysilio ym Mhorthaethwy a symud ymlaen i fynwent Eglwys Llanfaes, i weld beddau John Elias (1774-1841) a John Williams (1854-1921) un o bregethwyr amlycaf y Methodistiaid, ac un o brif gedyrn pulpud Cymru. Symud ymlaen wedyn i weld Priordy Penmon gyda'r Colomendy enwog, a chyrraedd Trwyn Du i weld y goleudy ac Ynys Seiriol.
Gorffennwyd y daith ym Miwmares, un o drefi mwyaf diddorol Ynys Môn ym myd hanes. Mae'r castell a adeiladwyd ym 1295 yn un o'r cestyll mwyaf rhyfeddol o gyfnod y Normaniaid. Hefyd ym Miwmares mae cyfle arbennig i weld Llys, a godwyd ym 1614, a Charchar y Dre lle mae cyfle i weld byd y carcharor yn ystod oes Fictoria. Nid yw'r Carchar yn lle i'r gwangalon i ymweld ag ef, ond dylai pobol Sir Gaerfyrddin fynd yno a thalu ymweliad â'r Llys hefyd i weld y modd mae gwarchod hen adeiladau pwysig yn hanes Cymru.
Ymunodd Gwyn Parri â'r cwmni pan ddaeth yn amser cinio, ond fe ddaeth un galwad ffôn oddi wrtho yn ystod y bore, i ddweud wrthym am beidio a gorfwyta, oherwydd roedd gwledd yn ein disgwyl gydag un o aelodau Côr y Traeth yn ystod y prynhawn. Gan ymateb i gyngor Gwyn cafwyd cinio ysgafn yn y Fourcrosses ym Mhorthaethwy, a chafwyd cyfle i weld ar y teledu Llanelli yn curo Pontypridd yn gêm derfynol Cwpan Cymru.
Parhau oedd y croeso pa le bynnag aeth y Crwydriaid, a gyda Haydn wrth y llyw a Gwyn fel morlywydd, dyma groesi Môn a chyrraedd cartref Hywel Rowlands Rhyd Caradog, Llandrygan. Roedd ei breswylfan fel y pin o lan, y lawntiau yn gymen, a doedd dimsyniad gan y Crwydriaid o'r lletygarwch oedd i ddilyn.
Roeddwn ar ddeall mai galw i weld y Scarlets yn chwarae yn erbyn y Gweilch ar y teledu oedd y bwriad, ond pan ddechreuodd y gêm, dyma Hywel a Gwyn fel gweinyddion yn serfio unrhyw ddiod yn ychwanegol i de a choffi, ac yn dilyn cafwyd brechdanau o gig eidion wedi ei gwcio yn berffaith, a rheini yn dod i fewn i'r lolfa ar felt symudol. 'Does dim dwywaith, prin y profir cystal lletygarwch gan y Crwydriaid. Esgus Hywel oedd fod dyled arno i Gwyna'i wraig annwyl, Annette Bryn Parri, y gyfeilyddes enwog, ac roedd estyn croeso a lletygarwch i'w ffrindiau pan oeddynt yn ymweld ag Ynys Môn, yn ffordd iddo ddangos ei werthfawrogiad a'i edmygedd ohonynt.
Ar ôl gweld yr hen dractor, Massey Ferguson J130 ar y clos, a hwnnw fel newydd, roedd yn amser i baratoi i fynd i gyngerdd y nos yng nghwmni Hywel. Wedi cyrraedd Llanddeusant pen draw Ynys Môn, a newid bws dyma'r Crwydriaid yn cyfarfod â'r hen gyfeillion, Arwel, Elwyn a Myrddin, sef, Hogia'r Wyddfa, ac wrth gwrs eu cyfeilydd, Annette Bryn Parri, a dyna gwmnïa gwresog.
Pwrpas y noson mewn pabell ar dir Melin Llynnon, oedd gwrando ar Dai Jones, Llanilar, yn sgwrsio â phobl lleol yn gyntaf, yna gwrando ar hen ganiadau'r Hogia, a'r unawdydd o Ddihewyd, Doreen Lewis. Roedd wyth cant yn y babell, a phawb yn cael bwyd a diod yn ystod yr hanner amser, gyda mochyn cyfan yn cael ei rostio, y trefniadau yn nwylo staff Cyngor Sirol Ynys Môn. Yn ystod yr ail banner bu Dai Jones yn sgwrsio â'r adnabyddus Mererid Hopwood, a Gerallt Pennant. Cyn diwedd y gyngerdd roedd rhaid i'r Crwydriaid, Gwyn Parri a'r gŵr gorgaredig Hywel Rowlands deithio 'nôl i Califfornia ym Mrynteg lle roedd eu ffrindiau, y bobl lleol yn aros amdanynt.
Mewn byr amser dyma'r Hogia ac Annette yn ymuno â'r cwmni. Fe all y darllenwr ddychmygu y naws arbennig yn y 'Ciali', yn enwedig ar ôl deall bod y Scarlets yn fuddugol yn erbyn Y Gweilch ar y Strade. Ar ôl i'r Hogia a'u cwmni ymadael, cawsom gwmni arall, sef, tri o gantorion un o'r corau lleol, a bu canu brwd am oriau.
Fore Sul, dyma'r Crwydriaid yn paratoi am y siwrne adref, ond cyn croesi i'r tir mawr penderfynu mynd i Moelfre i gael hanes morwrol y pentref, yn cynnwys y 'Thetis' y llong danfor a suddodd ym Mehefin, 1939, pryd boddwyd 90 o forwyr; Y Royal Charter', y llong haearn, a longddrylliwyd yn Hydref, 1859, pryd y boddwyd 483 o'r bobl, a gweld y gofeb i Dic Evans (1905-2001) y llywiwr dewr.
Ni fyddai yn bosib cael yr holl brofiadau ac ystyried cyfoeth ein gwlad oni bai am y frawdoliaeth, ac y mae yn profi mai teithio fel grŵp sydd orau bob amser, ond mae'n rhaid cael trefnwyr o ardderchowgrwydd.
Donald Willaims