91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Wilia
Llyn Llech Owain Cerdd Erw'r Werin
Medi 2003
Beth tybed a symbylodd y bardd D. H. Culpitt, Cefneithin i ysgrifennu'r gerdd 'Erw'r Werin'?

Mae'n dda bod rhai ohonom fel y wiwer yn storio, oherwydd daeth yr ateb i'r cwestiwn uchod yn ddiarwybod wrth ddarganfod erthygl ar 'Llyn Llech Owain' a ysgrifennodd y diweddar D. H. Culpitt i'r Tyst ym Medi 1969 a dyma godi'r llen ar un o hen arferion pen ucha'r Cwm :

Mae yna ddarn o dir ar y bryn hwn a elwir yn Erw'r Werin, ac yr oedd gan y werin bob hawl i fynd i'r fan yma ar ddiwrnod Gwyl Ifan bob blwyddyn i hel y swnd gwyn sydd yno.

Defnyddier y swnd yma i osod ar y rip er mwyn lladd gwair a thorri yd ac hefyd ei ddodi ar lawr eu ceginau a'i ddysgub allan â sgubell i gadw y lloriau yn lân. Gosodir bloneg mochyn ar ddarn o astell â'r swnd arno, ac y mae hen rigwm bach o hyd i gofio am y peth:

Bloneg moch Cydweli,
A swnd o Fanc y Llyn;
A hogi 'n aml, aml
Fe dyr y gwair fel hyn.

Y mae llawer fersiwn at hwn hefyd.

Gan fod nifer o ddynion yn cyd-gwrdd fel hyn ar ddiwrnod Gwyl, rhaid oedd dod â lluniaeth gyda hwy ac wedi cael lluniaeth i ysgafnhau eu baich, naturiol iawn oedd cael rhywfath o fabolgampau, a chofiaf mam a 'nhad yn sôn am y mabolgampau hyn. Felly, aeth diwrnod cyrchu'r llwch gwyn yn ddiwrnod nodedig ym mywyd y cylch, a thyfodd enw y Llyn, yn Llyn-y-llwch Gwyn, a gelwid y llyn wrth yr enw hyn ar un adeg ac hefyd wrth Lyn Tegwyn. Soniodd y Parch. T. Rees fel hyn yn ei hanes: "The lake is called by the unfamiliar name of Llyn Tegwyn".

Roedd angen rhywbeth i ddiddanu plant gyda'r hwyr, felly, dyma rywun a oedd yn berchen dychymyg da yn mynd ati a llunio stori dda am y llyn, ac o Lyn y llwch Gwyn tyfodd yn Lyn-y-llech Owen. Y mae'r stori yn werth ei hadrodd a'i chadw ar gof.

Ond, yr enw a' m denodd i fwyaf oedd ' Erw'r Werin', a chredaf fod yr hanes hwn hefyd yn werth ei gadw ar gof, a dyna beth a'm denodd i i ganu y gân fach hon i'r darn tir. A gan nad oes fawr o neb yn mynd yno y dyddiau hyn, 'does dim angen am swnd, neu lwch gwyn, at rip na llawr cegin, a chredaf mai fi oedd bron yr olaf a fu yn caru yn y grug yna. 'Newid ddaeth o rod i rod', ond y gân ... a'i amcan pennaf yw cadw'r hen enw ar gof a chadw Erw'r Werin'.

D. H.C.

O.N.: Bellach, â'r darn yma o dir yn rhan o Barc Gwledig Llyn Llech Owain daeth newid eto yn hanes y llecyn hwn ac ymwelwyr yn tyrru yno y dyddiau hyn.
Cliciwch yma am hanes yr ardal a chwedl Llyn Llech Owain.

Diolch i'r teulu am ganiatau i ni gyhoeddi'r gerdd a rhan o'r erthygl.

Dyma'r gerdd :Erw'r Werin
Mae darn o dir ar Fanc-y-llyn,
Lle caiff y grug gynefin;
Ac enw'r fan ar lafar gwlad
Medd nain, yw 'Erw'r Werin'.

Dôi pobloedd lawer at y lle,
A'r haul a thywydd gerwin:
I gasglu swnd ar ddiwrnod gwyl
Am ddim o Erw'r Werin.

O osod hwn yn drwch ar rip,
A bloneg arni'n ddibrin,
Fe dorrid yd a gwair yn lân
Ag awch o Erw'r Werin.

Bum innau yno'n wyn fy myd,
Dan lewyrch haul Mehefin,
Yn casglu rhywbeth gwell na swnd
Ar randir 'Erw'r Werin'.

D. H. Culpitt. Cefneithin


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý