Mae Wynford James yn byw yng Ngharmel a Rosalind Moore â chysylltiad a Chwm Gwendraeth. Roedd ei mam, Dorothy Moore Williams yn rhoi gwersi piano i lu o ddisgyblion yn Nhrimsaran am dros hanner canrif. Byddai rhai wynebau cyfarwydd yn y gynulleidfa i ddarllenwyr Papur y Cwm mae'n siŵr ac yn eu plith Moc Morris a fu'n rhedeg Swyddfa Bost Pontyberem am nifer o flynyddoedd, Daphne Morgan o Fynyddcerrig ac Oriel Jennson, cyn-athrawes yn Ysgol Cross Hands.
|