91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Wilia
Magdalen (Lowri Jones) a Hedd (Siôn Owen) Mwynhau Magdalen
Rhagfyr 2004
Roedd Neuadd Pontyberem yn fwrlwm o fywyd, yn fôr o gân ac yn oriel ddiddorol o gymeriadau yn ystod ail wythnos mis Tachwedd pan lwyfannwyd y sioe gerdd 'Magdalen'.
Awduron y sgript oedd y Prifeirdd Tudur Dylan a Cefin Roberts a chyfansoddwyd y gerddoriaeth gan Gareth Glyn. Cyflwynwyd y fersiwn fodern hon o hanes Magdalen gan drawsdoriad o ddisgyblion yr ysgol o dan arweiniad campus Pennaeth yr Adran Ddrama, Mrs. Carys Edwards, a Mrs. Nikola Roderick, Pennaeth yr Adran Gerdd.

Cafwyd perfformiadau egnïol a lliwgar wrth i ni ddilyn Magdalen drwy gyfres o brofiadau - yn un o gang y stryd, yn Ilercian yn ardal golau coch y puteiniaid, yn y salon wrth ei gwaith ac yn ei chyfeillgarwch agos â Hedd. Roedd y lliw, y symud a'r emosiynau amrywiol yn y golygfeydd hyn yn adlewyrchu realiti bywyd mewn gwahanol agweddau o fywyd ein cymdeithas gyfoes.

Neges y cynhyrchiad yn sicr oedd holed pawb ei hun. Roedd y perfformiad yn rhoi digon o gyfle i bawb fyfyrio a chnoi cil ar broblemau cyfoes.

Cludwyd y gynulleidfa o'r stryd i gapel Seion, o'r salon i fywyd digyfeiriad y gang o bobl ifanc ar y stryd, o fywyd y strydoedd cefn i aelwyd anghynnes mam Magdalen. Ynghanol y difrifwch roedd y gynulleidfa yn ymateb i ffraethineb y cymeriadau a doniolwch y natur ddynol mewn rhai sefyllfaoedd!

Roedd y canu a'r symud yn wirioneddol wefreiddiol gyda chyfraniad trawiadol o effeithiol gan y band a oedd yn cynnwys disgyblion, athrawon teithiol a thri o athrawon yr ysgol.

LLongyfarchiadau i bawb - yn actorion, cantorion, dawnswyr, cerddorion a staff - am berfformiadau arbennig o gaboledig.

Dyma sylwadau rhai o'r bobl ifanc fu'n perfformio yn y sioe gerdd:

Gwenan Thomas
Fe wnes i fwynhau'r canu, dawnsio ac actio. Roedd y sialens o gymeriadu cymeriad creulon yn brofiad newydd. Roedd y sioe yn rhoi cyfle i wneud mwy o ffrindiau!! Diolch am y cyfle.

Heulwen Beasley
Roedd y sioe yn brofiad anhygoel. Fe ges i wefr ac rwyf wedi dysgu llawer amdanaf fy hun ac eraill. Mae wedi bod yn gyfle i mi gymdeithasu ac rwy'n methu aros am y sioe nesaf! Fe wna i gofio'r profiad am byth!

Sara Herbert Evans
Roedd bod yn y sioe 'Magdalen' yn brofiad arbennig. Mae'n deimlad anhygoel i fod ar y llwyfan gyda phawb yn eich canmol. Methu aros tan y sioe nesaf!

Mae mwy o luniau a sylwadau'r cast yn rhifyn Rhagfyr o Bapur y Cwm.

Fuoch chi'n gweld perfformiad o Magdalen? Beth oedd eich barn - rhowch wybod i ni isod!


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý