Mae'r cwm wedi ei anrhydeddu yn ddiweddar pan agorwyd cae rasio ceffylau newydd. Hwn yw'r cwrs cyntaf i'w agor ym Mhrydain ers wythdeg o flynyddoedd, a saif ar hen safle glo brig Ffos Las rhwng pentrefi Carwe a Thrimsaran. Mae'r lleoliad mewn amffitheatr odidog wedi ei greu gan fynyddoedd gwyrddlas Sir Gâr, a chaiff y safle ei gymharu â chwrs byd enwog Cheltenham.
Mae'n debyg fod y cwrs yn mynd i ddenu ceffylau gorau Prydain ac Iwerddon ac amcangyfrifir fod deng mil o bobl wedi mynychu'r cyfarfod cyntaf ddydd Iau, Mehefin 18fed a bydd hyd at saith o gyfarfodydd pellach o hyn tan y Nadolig.
Mae'r cwrs milltir a hanner o hyd wedi ei gynllunio â thri llwybr sy'n gymwys i gynnal rasys ar y gwastad, dros ffos a pherth a chlwydi ac mae'n galluogi'r dyrfa i wylio'r ras yn ei chyfanrwydd.
Cafodd y tywyrch rasio glod uchel gan y joci enwog Tony McCoy ar ôl iddo ei brofi yn ddiweddar.
Yn ganolbwynt ac yn eich cyfarch wrth fynedfa'r cwrs mae cerflun trawiadol pymtheg troedfedd o uchder wedi ei lunio allan o ddur wedi ei ailgylchu. Cerflunydd ifanc o Drefach, sef Chris Crane a'i creodd. Dengys y cerflun ddau geffyl dan farchogaeth eu jocis yn brwydro am oruchafiaeth wrth garlamu am y llinell derfyn.
|