Mae na dinc gwerinol a phoblogaidd i'r CD sydd â rhywbeth i siwtio pawb. Mae'n llawn o ganeuon gwreiddiol ac yn cynnwys trefniant Ar Lan y Môr. Mae hi wedi ei chreu a'i chynhyrchu o'r dechrau i'r diwedd yng Nghwm Gwendraeth. Mae hefyd yn cynnwys cân sy'n dathlu llwyddiant pobl Llangyndeyrn. Mae'r gân yn sôn am yr ymgyrch i atal boddi Cwm Gwendraeth Fach - enw'r gân yw Cofio Llangyndeyrn, ac mae'n briodol ei bod yn gweld golau dydd yn y flwyddyn lle r'yn ni'n cofnodi deugain mlynedd ers dechrau'r frwydr honno. Hefyd mae Gwenda wedi bod yn brysur yn ysgrifennu llyfr Ymlaen â'r Gân sydd yn cael ei gyhoeddi gan Wasg Gomer. Mae'r llyfr yn sôn am fywyd Gwenda o'i phlentyndod hyd nawr. Magwraeth gyffredin, digon gwledig ar fferm yng Nghwm Gwendraeth, plentyndod cariadus oedd yn llawn o ganu. Ond, daeth tro ar fyd ac fe ddaeth Gwenda wyneb yn wyneb â gelyn oedd yn barod am frwydr fawr - ac fe frwydrodd hi'n llwyddiannus yn erbyn cancer y fron. Dyma stori afaelgar, deimladwy, hynod o galonogol, am ymdrech merch gyffredin, i oroesi, ond mae hefyd yn stori ysbrydoledig y ferch drws nesaf a ddaeth yn seren canu pop Cymru. Fe fydd y llyfr a'r CD yn cael eu lawnsio yn swyddogol mewn cyngerdd yn Neuadd Pontyberem am 7.30 Nos Sadwrn, 13eg o Ragfyr. Mae'r pris mynediad yn £4 i oedolion a phlant am ddim. Yng nghwmni Gwenda a Geinor ynghyd â Gillian Elisa a Ieuenctid o blith Cwmni Theatr Ieuenctid Cwm Gwendraeth, mae'n argoeli i fod yn noson fawr! Mae tocynnau ar werth oddi wrth Fenter Cwm Gwendraeth.
|