|
|
|
Ail-fyw'r frwydr Hydref 2002 Aeth deugain mlynedd heibio bellach ers brwydro maith pobol Llangyndeyrn yn erbyn boddi Cwm Gwendraeth Fach. |
|
|
|
Ar y pryd, cafodd yr ymdrech honno gryn sylw yn y wasg a'r cyfryngau a chafodd y rhai a'i hymladdodd hi lawer o gefnogaeth oherwydd eu safiad yn erbyn Awdurdodau Abertawe.
Bryd hynny, roedd pobol Llangyndeyrn yn ymladd i gadw eu ffordd o fyw. Pe bai'r cynlluniau i greu cronfa ddwr ar ddechrau chwedegau'r ganrif ddiwethaf wedi eu gwireddu, yna byddai ardal Llangyndeyrn wedi ei gweddnewid am byth.
Erbyn hyn, wrth gwrs, mae bywyd wedi symud ymlaen wedi'r fuddugoliaeth honno, ond nid yw hynny'n golygu fod y peryglon i ffordd o fyw yr ardal wedi eu dileu.
Yn wir, peryglon gwahanol sy'n bygwth y fro erbyn hyn. O gael gwared ar fygythiad y dwr, ton o fewnfudwyr sy'n achosi gofid i'r ardalwyr erbyn hyn.
Fel mewn llawer man arall ledled Cymru, mae'r ifanc yn gorfod symud i'r dinasoedd poblog i weithio ac mae'r dyfodol yn dywyll i ardal a fu unwaith yn un o'r Cymreiciaf yng Nghymru.
Ond nid yw'r dyfodol heb lygedyn o obaith ar y gorwel chwaith. Prawf o hynny yw'r ffaith fod cynifer o ieuenctid Cwm Gwendraeth wedi dewis ail-fyw'r frwydr ar lwyfan, a hynny yn y sioe gerdd Dal Ein Tir gan geisio ennill cefnogaeth yn erbyn y bygythiadau newydd.
Mewn undod mae nerth.
|
|
|
|
|
|