Ar fore'r Nadolig diwethaf, mi gefais brofiad arbennig iawn wrth gerdded o'm cartref tua'r llan. Gellid teimlo'r tawelwch bron, fel petai'r byd heb ddihuno i rialtwch a dwndwr gwyl sydd bellach wedi troi yn ddiystyr a seciwlar i'r rhan fwyaf. Yn sydyn, torrwyd ar draws y distawrwydd dwys gan drydar un aderyn bach yn dechrau canu. Ymunodd un arall ac un arall yn y gân nes yr oedd yr awyr yn atseinio gan gorws y wawr. Sefais yn llonydd i wrando ar swn anghymarol o brydferth wrth i'r adar foliannu eu Crewr a gaed yn y crud. Daeth pennill o emyn a ddysgais yn blentyn, yn ôl i'm cof : Yr adar bach sy'n canu Yn swynol ar y coed, Canmolant gariad Iesu Y gorau fu erioed. Telynau bychain ydynt I lonni'r galon drist, 'Does allu i ddistewi Eu cân o fawl i Grist. Telynau bychain Iesu Âu sain yn cyrraedd nef I uno yn yr anthem O foliant iddo Ef. Erbyn hyn mae'r Nadolig wedi hen fynd heibio ac mae geiriau a welir yng Nghaniad Solomon yn briodol iawn. Canys wele y gaeaf a aeth heibio ... Gwelwyd y blodau ar y ddaear, daeth amser i'r adar i ganu, clywyd llais y durtur yn ein gwlad.' Mae gan ddynion achos da i ganu hefyd. Mae'r gwanwyn yn amser i ni ganu coedydd ein Crewr am fod oerni'r gaeaf wedi mynd heibio a gwelwn brydferthwch lliw a llun y blodau ar y ddaear. Ond yn fwy na hyn, mae'r gwanwyn yn dymor yr Atgyfodiad, a thestun gorfoleddus ein cân yw buddugoliaeth ein Gwaredwr dros angau a'r bedd. Ffaith hanesyddol sydd yn dwyn cân dragwyddol i bwy bynnag a gredo ynddo Ef. Cofiwch am esiampl yr adar bach! Telynau bychain Iesu â'u sain yn cyrraedd nef. Dewch gyda ni â chroeso i uno yn yr anthem o foliant iddo Ef! Pat Turner
|