Rebecca Storch o Bontyberem a Peter Finnemore o Bontiets. Enillodd Peter y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain ynghyd â £5,000. Enillodd Rebecca ysgoloriaeth Artist Ifanc yr Eisteddfod, ynghyd ag ysgoloriaeth o £2,000 am waith fideo 'Hiraeth'. Mae darllenwyr Papur y Cwm yn eu llongyfarch yn galonnog ac yn ymfalchïo yn eu llwyddiant. I'r rheiny ohonom na fu yn yr Eisteddfod eleni dyma rai o sylwadau'r beirniaid am waith y ddau. "Daeth y panel i waw ffactor o gytundeb gyda phawb yn gwenu â phleser wrth wobrwyo Peter Finnemore. ""Mae'n hyfrydwch pur gan fod darnau fideo Peter Finnemore yn cael eu harddangos yn Biennale Celf Fenis, ar hyn o bryd, ac mae'n cael rhannu ei hiwmor a'i weledigaeth â'r gynulleidfa graff yno.""Mae'r egni sy'n treiddio o ddarn Rebecca Storch yn siarad â mi, am dalent wahanol a brwd ar gyfer y cyfrwng hwn, gyda'i harsylwi tawel, perthnasol, ar y cyfarwydd a'r teuluol." "Dyfarnwyd yr ysgoloriaeth i Rebecca Storch am waith a oedd yn llwyddo i'n denu yn ôl, dro ar ôl tro, i'w holi eto, heb golli na'i wefr na'n diddordeb." I'r rhai ohonom fu ym Mhafiliwn Celf a Chrefft Eisteddfod Eryri a'r Cyffiniau cawsom ninnau wefr a deffrowyd ein diddordeb wrth weld delweddau cyfarwydd bro a theulu yng ngwaith Rebecca a Peter. Dymunwn bob llwyddiant i'r ddau i'r ddyfodol.
|