Y rhai canlynol ydyw'r gwythiennau glo sydd wedi eu darganfod yn y Mynydd Mawr:
1. Y Wythien Felen
2. Y Wythien Fawr
3. Y Wythien Werdd
4. Y Wythien Stanllyd
5. Y Wythien Grasuchaf
6. Y Wythien Grasisaf
7. Y Wythien Sharcolyn
8. Y Wythien Gwendraeth
9. Y Wythien Dri Chwarter
10. Y Wythien Bump Cwart
11. Y Wythien RhesfachDechreuwyd gweithio glo yn y Mynydd Mawr yn 1669 ar ysmotyn o dir Bryn-y- Fuwch. Dechreuwyd y gwaith o dan Gorslas, a bu gweithio ar Bryn-y-Fuwch am rai blynyddoedd. Bu'n segur am ysbaid, yna prynodd William Williams, y darn tir o'r enw Gorslas, agorodd hen lefel ddŵr, a sychodd y gors trwy wneuthur hynny.
Cymerodd bonheddwr o'r enw Major William Evans at agor gwaith glo yn y Cross Hands. Ni fu'n llwyddiannus ar y dechrau, ond daeth bonheddwr o'r enw Syr William Paxton i'w helpu; parhaodd y ddau fonheddwr mewn undeb yn y gwaith hyd farwolaeth William Evans. Yna cymerodd bonheddwr o'r enw William Long Rye at gario'r gwaith yn ei flaen.
Yr oedd parti o weithwyr yn gweithio yng Nghwm-coch hefyd, a gwaith Nghae'r Bryn gan William Williams o Gorslas. Ar ôl Rye cymerodd David Davies, Llwydcoed, Llannon, a John George, Rhydymaerdy at agor gwaith y Cross Hands yn llawer dyfnach ac ehangach. Buont hwy yn ei weithio am wyth mlynedd.
Yna cymerwyd y gwaith, sef Cross Hands, a gwaith arall ar Gors-y-Lan o'r enw California, gan un o'r enw John Howard Norton. Bu'r ddau waith gyda'i gilydd yn codi yn agos i200 o dunelli o lo y dydd. Cludwyd y glo dros y rheilffordd i Bant-y-ffynnon. Bu yna lofa fechan hefyd ym Mhanteg.
Gwythiennau Mwyn Haerarn yn y Mynydd Mawr
Y mae gwythiennau o Fwyn Haearn wedi bod yn cael eu gweithio ar y Mynydd Mawr:
1. Y Gwythiennau Gleision (3 mewn nifer)
2. Y Gwythiennau Melyn (3 mewn nifer)
3. Y Gwythiennau Rhesfach (3 mewn nifer)
Y mae'r uchaf o'r gwythiennau gleision yn 4 - 4 1/2 modfedd. Yr un ganol yn 3 1/2 modfedd, a'r un nesaf yn 18 modfedd. Dechreuwyd gweithio mwyn haearn yn agos i Gorslas (a gelwir y fan hyd heddiw yn Cwm Mwyn) gan fonheddwr o'r enw Abbey, ac adeiladodd chwech o dai i'w weithwyr.
Buwyd yn gweithio hefyd ar ysmotyn a elwir yn Drewanc. Adeiladodd yno hefyd chwech o dai i'w weithwyr. Yr oedd ganddo hefyd weithwyr yn torri cerrig calch yn agos i Fwlchcarreg-y-mynydd. Yr oedd yn cludo'r calch a'r tywod mewn troliau i lawr i Gwm-Mwyn. Yn y flwyddyn 1802 gwnaed rheilffordd o'r Cwm-Mwyn i'r Ffwrnes, ger Llanelli. Yr oedd y rheilffordd o goed ar sylfaen o gerrig. Yr oedd cerbydau o goed yn cael eu tynnu gan geffylau yn cario'r mwyn, y tywod a'r calch, i'r Ffwrnes, lle yr oedd yn cael ei doddi.
Yn y flwyddyn 1811 pasiwyd deddf yn y Senedd i'r diben o fesur a gwerthu'r mynydd; apwyntiwyd tri o ddirprwywyr o Sir Benfro i ddwyn y cynllun i weithrediad, ond gwrthododd y tirfeddianwyr oedd yn berchen y tir o amgylch y mynydd dderbyn y cynllun.
Yn 1812 adnewyddwyd y ddeddf. Apwyntiwyd dau dir fesurydd, a fu am fisoedd yn mesur a gwneud map o'r holl fynydd, ac a ddygasant y cynllun i ben. Rhanasant a gwerthasant y rhannau mwyaf ohono i'r bonheddwyr canlynol:
1. Iarll Cawdor
2. Arglwydd Dinefwr
3. Mr. Abadam, Middleton Hall
4. Arglwydd Cholmondeley.
5. Mr. William Lewis, Llysnewydd
6. Mr. John Phillips.
Darfu i amryw eraill brynu rhannau llai o'r tir. Rhaid cofio mai dim ond arwynebedd y mynydd yn unig a werthwyd. Y mae'r mwynfeydd ym meddiant Arglwyddi y ddwy faenor.Gwnaethpwyd amryw o heolydd dros y mynydd wedi'r gwerthiant. Yr heol gyntaf oedd yr un o'r Gorslas i'r Hendre. Y nesaf oedd o Gorslas i'r Dyllgoed Isaf, a wnaethpwyd gan un Phillip Walters o Lanlluan.
Gwnaethpwyd amryw o heolydd hefyd o Ben-y-groes i'r Hendre ac o'r Graig Hollt i Lidiart y Blaenau.Nid oedd ond dau dŷ ar y mynydd cyn ei werthu, sef Bane y Ddraenen a Tŷ'r Cerrig. Y tŷ cyntaf a adeiladwyd ar ôl gwerthu'r mynydd oedd Thornhill (fel y'i gelwir yn bresennol). Adeiladwyd y plas gerllaw i'r hen Fanc y Ddraenen gan fonheddwr o'r enw Covert, a'i gwerthodd i William Long Rye.
Yr ail dÅ· a adeiladwyd ar y mynydd oedd Mead House, a godwyd gan un o'r enw Bontock, ac a'i gwerthodd i William Long Rye. Y trydydd tÅ· a adeiladwyd oedd Green Hill gan Thomas Michael; gwerthwyd hwn hefyd i Rye.
Y mae pump o addoldai ar y mynydd yn bresennol:
Penygroes - Capel yr Annibynwyr
Ceffneithin - Capel yr Annibynwyr
Carmel - Capel y Bedyddwyr
Tabor - Capel y Bedyddwyr
Llan Gorslas - neu Eglwys Fechan.
Y mae naw tafarndy ar y mynydd. Y cyntaf oedd Tafarn y Pant-teg, eithr nid oes yno dafarn yn awr:
1 . Cross Hands
2. Union Tavern, Gorslas
3. Black Lion, Gorslas
4. King's Head
5. Stag and Pheasant
6. Farmers' Arms, Penygroes
7. Norton Arms, Penygroes
8. Lamb Inn
9. Farmers' Arms, ger yr hen reilffordd
Nodiadau:Gwaith Bryn-y-fuwchGweithid glo yn gynnar ar y Mynydd Mawr. Dywed Gerrard Bromley mewn 'survey' a wnaed o Arglwyddiaeth Cydweli yn y flwyddyn 1609 am weithio glo ar y 'Common called Mynith Mawr', ac fe ddygir tystiolaeth ganddo am weithio glo cyn cof gŵr yn y flwyddyn honno (Gweler 'Hanes Plwyf Llandybie', tud 213). Pwy oedd y Major William Evans a William Long Rye a William Williams o Gorslas?
(Amman Valley Chronicle, Awst 7,1941