Cafwyd seremoni arbennig yng Nghynhadledd Plaid Cymru yn Aberystwyth ar 12 Medi i ddiolch i un o gyn-gynghorwyr Cymuned Cwm Gwendraeth am ei wasanaeth i'w gymuned ac i'r Blaid.
O flaen neuadd lawn yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, cyflwynodd Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Adam Price, dystysgrif Gwobr Cyfraniad Arbennig i Eifion Roberts, Bancffosfelen i gydnabod 34 mlynedd o wasanaeth di-dor ar Gyngor Cymuned Llangyndeyrn. Yng Ngwanwyn 1974 enillodd Eifion Roberts sedd ar hen Gyngor Plwyf Llangyndeyrn, Sir Gaerfyrddin, mewn is-etholiad - y person cyntaf i ennill sedd yn enw Plaid Cymru ar y Cyngor yma. Dyna ddechrau'r chwyldroad sydd wedi gweld y Blaid yn tyfu yng Nghwm Gwendraeth ac erbyn hyn wedi cipio pob un o'r 14 sedd ar y Cyngor yma ers 2004. Llwyddodd Eifion i gadw ei sedd drwy gydol y 34 mlynedd ddilynol nes iddo benderfynu eleni ei fod yn dymuno ymddeol oherwydd dirywiad yn ei iechyd.
Talodd Adam Price deyrnged gynnes a diffuant iawn i Eifion, un o gymeriadau mawr y Cwm, gan gydnabod ei gyfraniad mawr nid yn unig i'w filltir sgwâr ond i achos y Blaid yn Sir Gaerfyrddin a thu hwnt.
Yn gynharach eleni, cafodd Cyngor Cymuned Llangyndeyrn gyfle i gydnabod gwasanaeth Eifion mewn cinio arbennig ble y cyflwynwyd plât arbennig iddo. Yn y cinio, darllenwyd dau ddarn o farddoniaeth gan feirdd lleol, Heddwyn Jones a Llyr Iwan Evans.
|