Clerc i gysylltu gyda'r Cyngor i dynnu sylw at yr holl waith sydd angen ei wneud unwaith eto.
Bu y Cyng. Emlyn Hughes o amgylch yr ardal gyda aelod o staff priffyrdd
Cyngor Conwy yn tynnu ei sylw am yr holl waith sydd angen ei wneud yn yr ardal.
Gan fod pryder am foduron yn parcio ger capel Capel Garmon. Clerc i holi beth yw'r diweddara am gael llinellau melyn dwbl yno i gadw y groesffordd yn glir.
Daeth Gareth Jones AC i gyfarfod ar Cadeirydd Cyng. Gwyn Lloyd Jones ar Cyng Emlyn Hughes i dynnu ei sylw at y trafferthion y mae loriau mawr yn ei
cael wrth ddefnyddio tro Tyddyn Du.
Mae biniau ailgylchu gwyrdd wrthi yn cael ei rhannu o amgylch Bro Garmon
ar hyn o bryd.
NID OES gwasanaeth casglu ger y ffordd wedi cychwyn eto. Mae y biniau yma er hwylustod i gadw a chario pethau sydd i'w ailgylchu i ganolfan ailgylchu leol.
Mae biniau ail gylchu i fod i gyrraedd Nebo yn y dyddiau nesa.
Croesawyd PC Michelle Williams o Heddlu Gogledd Cymru i'r cyfarfod.
Mae yn awyddus i gael nosweithiau agored yn yr ardal.
Gobeithir cael y cyntaf yn neuadd Garth Garmon Capel Garmon ar Nos Fercher 10 o Ragfyr am 7.30 o'r gloch.
Bydd y noson yn cael ei hysbysebu i wahodd aelodau'r gymuned ddod i'r cyfarfod.
Daeth cais cynllunio codi estyniad cegin yn Tan y Foel Capel Garmon. Nid oedd unrhyw wrthwynebiad.
|