Asado ydy barbeciw traddodiadol o Batagonia, a threfnwyd y noson gan Fenter Iaith Conwy. Llwyddwyd i godi hyd at £500, tuag at ddatblygu Ysgol Gymraeg yn nhref Trelew ym Mhatagonia. Daeth hyd at 150 o bobol a phlant yno i fwynhau'r noson, oedd yn cynnwys cig oen oedd wedi ei goginio dros dân agored, gyda diolch i Rene Gruffydd, Gwyn Jones ac Eifion Evans, a diolch i Arwel Jones y cigydd o Lanrwst am dorri'r cig. I gyd-fynd gyda'r cig, cafwyd salad traddodiadol o Batagonia, oedd wedi ei baratoi yng Nghaffi Patagonia ym Mhenmaenmawr. Yn ystod y noson, cafwyd adloniant o'r safon uchaf gan Dan Amor (Cae Gwyn), Geraint Lovgreen, Iwan Llwyd a Rene Gruffydd. Dymunai Menter Iaith Conwy ddiolch o galon i bawb oedd yn ymwneud gyda'r noson, yn enwedig i Cyril a Hefina Lewis, Fferm Pen-y-bryn, Penmachno, am gael defuyddio'r fferm yn ddi-dâl.
|