|
Mae'r rhain yn cynnwys creu cyfle i gerddorion ddod at ei gilydd i chwarae ac i ymarfer mewn ffordd anffurfiol, cynnal sesiynau hyfforddi ac ymarfer i bobl o bob oedran, a gwneud ymchwil i hen ganeuon lleol.
Mae'r criw, sydd o dan ofal Geraint Fôn, Tecwyn Ifan ac eraill, yn cydweithio gyda Trac, y sefydliad sy'n datblygu traddodiadau gwerin yng Nghymru, i chwilio am, ac yna ailgyflwyno, hen ganeuon gwerin i'w hardaloedd gwreiddiol. Mae llawer o hen ganeuon sy'n perthyn i Lanrwst ac ardaloedd Dyffryn Conwy wledig ar fin diflannu'n gyfan gwbl, a llawer ohonyn nhw dim ond yn bodoli ar archifau'r brifysgol ym Mangor ac yn San Ffagan. Y bwriad yw eu harbed rhag diflannu'n llwyr, a'u cyflwyno unwaith eto i'r cenedlaethau iau.
Cefnogaeth Trac sydd hefyd yn gyfrifol am ganiatáu i'r Clwb drefnu sesiynau hyfforddi yn y gymuned. Mae'r rhain ar agor i unrhyw rai sydd a diddordeb mewn ymarfer chwarae offerynnau, beth bynnag eu hoedran. Bwriad y Clwb yn y tymor hir yw medru cynnig hyfforddiant i ddechreuwyr llwyr hefyd. Bydd y hyfforddiant hwn yn canolbwyntio ar wahanol agweddau o gerddoriaeth werin, ac ar ymarfer gwahanol offerynnau. Mae croeso i bawb ddod i'r rhain a bydd y sesiynau yn hollol anffurfiol, a hynny yn union â'r traddodiad gwerin.
Wrth ddangos cefnogaeth frwd i'r fenter, dywedodd Dafydd Huw, tiwtor cerddoriaeth yn Llanrwst, fod hyn "yn gyfle gwych i bobl ddatblygu eu doniau a chael cyfle i chwarae mewn awyrgylch anffurfiol, dan arweiniad arbenigwyr yn y maes cerddoriaeth werin, a hynny i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg".
Nod arall ar ran y clwb yw'r amlycaf ohonyn nhw, sef yn syml medru cael criw at ei gilydd i chwarae o gwmpas
ardaloedd Llanrwst a'r dyffryn. Mae hyn yn fodd i ailafael mewn hen draddodiad arall, sef cerddorion yn chwarae'n anffurfiol a mwynhau noson hwyliog drwy gerddoriaeth.
Gyda'r sesiwn cyntaf wedi'i gynnal ddiwedd Tachwedd, bydd y Clwb yn cyfarfod yn rheolaidd ar nos Wener olaf pob mis, a hynny am 7-00 yn swyddfa Menter laith Conwy, ar y sgwar yn LIanrwst. Bydd y cyfarfod nesaf, felly, nos Wener, lonawr 30ain 2009. Os hoffech wybod mwy am Glwb Gwerin Dyffryn Conwy, neu am y sesiynau hyfforddi, yna ffoniwch 01492 642 108, neu e-bostiwch dafvdd.apolloni@bvig-wlb.org.uk
|
|