Hyd at greu Penfforddnewydd tua chanol y 19eg ganrif, hon oedd y 'briffordd' a elai'n wreiddiol o gyfeiriad y bont a thafarn Y Bedol (Machno), heibio'r saith tÅ· a elwid yn
'Scotland', lle mae'r Sunny Ridge heddiw, a thir y Benglog. Yna i stryd fechan Glanypwll ac ymlaen dros yr Henrhos a heibio Fuches Goch tua'r dre'.
Hawdd dychmygu'r prysurdeb a'r cyffro fyddai yma ar ddiwrnod ffair Llanrwst, a'r holl drafnidiaeth o bell ac agos yn teithio heibio drysau'r cartrefi cyntefig. Er nad oes modd dyddio Glan y Pwll yn union,
mae'n eithaf sicr i'r tai cyntaf gael eu codi tua chanol y 18fed ganrif, gan ychwanegu atynt yn ddiweddarach. Yn y cyfnod hwnnw, cyfeirid at fwyafrif o anheddau'r pentref fel 'Y Llan', neu Village yn ôl trefn Seisnigaidd y cyfnod.
Ynddynt byddai tlodion y Llan yn trigo a'r mwyafrif ohonynt yn ddibynnol ar nawdd Treth y Tlodion ac elusennau'r plwyf am gynhaliaeth o ryw fath. (Newgate, Mary Street - Ffordd Glasgwm a thai o amgylch yr eglwys rhan fwyaf).
Er i dros ddeg ar hugain o dai'r pentref gael eu cofnodi yn y dosbarth hwnnw yn 1841, a thua 150 yn byw yn y Village, fe enwir Glanypwll fel stryd. Felly, mae'n debyg ei bod o safon uwch na'r rhelyw o gartrefi'r werin y cyfnod yn y Llan. Mae'n bosib fod yma annedd cyn y tai presennol, ac i Glanypwll gael ei godi ar seiliau tÅ·^ neu dai hirion, lle trigai'r preswylwyr yn un rhan, a'u hanifeiliaid mewn dan yr un to mewn rhan arall.
Rhaid cofio hefyd fod nifer o dai newydd yn codi ym Mhenmachno yn ystod ail hanner y 18fed ganrif, wrth i'r llechen doi gael ei marchnata yn yr ardal, gan ddisodli'r toeau o wellt, neu gerrig amrwd gynt. Y n 1841, cofnodir pedwar tŷ yn Nglan y Pwll, gydag un ohonynt yn wag. Yn y tri arall, trigai 18, gyda gŵr a gwraig a saith o blant wedi eu gwasgu i mewn i'r cyntaf. Yng nghyfrifiad 1851 cofnodir fod dau dŷ ychwanegol wedi'u codi at y pedwar uchod a 23 yn preswylio yn y chwe thŷ. Yn 1891, roedd
dau o'r chwe thŷ yn wag, ac anodd yw ceisio dirnad sut yr oedd teulu rhif 2 yn dygymod â'u sefyllfa byw enbyd. Heb fath o gyfleusterau y cymerwn yn ganiataol heddiw, yr oedd Robert ac Anne Thomas yn ceisio magu saith o blant, a rhoi lloches i fam oedrannus y penteulu hefyd, cyfanswm o ddeg mewn cartref dwy ystafell, na, nid dwy lofft hyd yn oed, ond dwy ystafell, wan yp a wan down!
Cofnodir saith tŷ Glan y Pwll yn 1901 gyda rhif 6 a 7 yn wag. Dim ond dwy ystafell yn gyfan gwbl oedd mewn dau ohonynt, a thair ystafell yn y gweddill. Yn llyfr Trethi Penmachno am 1929-30 gwelir mai AJ.Hughes, Bodgwynedd oedd perchennog y pum tŷ yn y stryd yr adeg honno. Trethi pedwar o dai Glan y Pwll oedd yr isaf ym Mhenmachno, gyda gwerth ardrethol o £1, a'r dreth gyffredinol yn 10 swllt a naw ceiniog (55c.). (Dyna faint a dalwyd o drethi ar garej ym Modowain. Bod Gethin a Llys Meddyg, ac ar y cwt hers hefyd!)
Mae llawer mwy o hanes i'r lle, wrth gwrs, ond rhaid ystyried gofod Yr Odyn. Da yw gweld hen stryd Glanypwll, a fu'n gartrefi i sawl teulu annwyl dros y blynyddoedd, wedi eu hadfer mor ardderchog gan Eifion Davies. Byddai Ann Williams, nain Lily May yn falch iawn o weld y stryd ar ei newydd wedd. Llongyfarchiadau mawr iddo am ennill y gydnabyddiaeth haeddiannol am y gwaith adfer.