Rhyw gyffro tebyg i'r hyn oedd ym mynwes yr arloeswyr a hwyliodd draw dros y moroedd ym 1865 yn anesmwytho rhywun. Ond taith enbyd oedd eiddo'r Mimosa a'i chriw i gymharu a thwristiaid 2006.
Glanio ym Madrid a byrddio awyren urddasol Aerolinas Argentinas am y daith i Buenos Aires.
Hydref 16-19
Treulio pedwar diwmod yn y brifddinas Buenos Aires. Ystyr yr enw yw 'gwynt teg' dymuniad y trigolion i'r morwyr a ddeuai i'r porthladd erstalwm.
Dyma ddinas y strydoedd llydan, dinas y cyfoethogion a'r tlodion, dinas lle mae pêl-droed yn grefydd a Diego Maradona yn dduw.
Dinas lle mae Eva Peron yn dduwies gan rai, putain i eraill a dinas y tango, y ddawns rywiol a'r miwsig hudolus. Dinas i brynu cot ledr neu fwynhau steak a gwin coch.
Hydref 19
Gadael y brifddinas i weld Estancia yn ardal y Pampas. Teithio dros filltiroedd o diroedd gwastad a ffrwythlon.
Er mai sioe ar gyfer twristiaid oedd yr Estancia yma fe welsom mor bwysig fu'r ceffyl a'r gaucho yn hanes yr Ariannin a chip olwg ar gyfoeth yr Estancias oedd â thai moethus ar ei tir, yn y brifddinas ac yn Ewrop.
Hydref 20
Hedfan o Buenos Aires i Esquel ym Mhatagonia. Diwrnod braf o Wanwyn a'r haul hefo ni drwy'r amser a'r Andes fawreddog ar y gorwel fel llinell wen.
Taith o ddwy awr a hanner a glanio ar lain awyr ger Esquel yn nghanol y mynyddoedd. Cyfarfod Andreas Roberts, gwr o dras Gymreig, ein tywysydd dros y pythefnos nesaf.
Taith fer mewn bws o'r maes awyr i dref Esquel sy'n llechu yn nghesail y mynyddoedd. Tref ddigon llwm yr olwg ond gwên a chroeso'r brodorion yn gynnes iawn.
Cyfarfod Archentwr Cymraeg ar y stryd pan yn holi am y banc agosaf, profiad arbennig a ni 8,000 o filltiroedd o gartref. Aros yn Hotel Tehuelche, gwesty sydd wedi ei enwi ar ôl llwyth yr Indiaid brodorol.
Hydref 21
Taith i weld fferm ffrwythau ar lethrau'r Andes a beth a welais yn tyfu yn y gwyllt ond Wermod Lwyd. Rhoi deilen yn fy mhoced i ddod adref.
Taith ar drên stêm ar ôl cinio i fyny i'r mynyddoedd lle roedd amgueddfa'r Indiaid. Lle oer a gwyntog!
Yn nechrau'r ganrif ddiwethaf roedd dau frawd o Hafod Y Geunan, Nebo sef Lewis a Mathew Jones wedi ymfudo i Batagonia.
Mae ei disgynyddion yno heddiw. Mae merch Mathew, Anti Lisi, yn byw yn Esquel. Dyma alw heibio a threulio orig ddifyr yn ei chwmni yn sôn am yr hen amser.
Un pâr o esgidiau gorau oedd gan Mathew a Lewis i rannu yn y blynyddoedd cynnar. Pan a'i un i'r capel roedd yn rhaid j'r llall aros adref.
Hydref 22
Er ai bod yn agos at ei phedwar ugain mae Anti Lisi yn arian byw o gymeriad ac roedd yn awyddus i ddangos Cwm Hyfryd i ni.
Dyma logi bws mini am y diwrnod ac i ffwrdd a ni i weld argae fawr wrth droed mynydd o'r enw Gorsedd y Cwmwl.
Galw heibio chwaer yn nghyfraith i Anti Lisi, Elsi oedd yn 86 oed ac yn byw ar ben ei hun mewn bwthyn anghysbell yn nghanol y coed.
Mae pobl y Wladfa yn arfer cofleidio wrth gyfarch ei gilydd fel arwydd o'u croeso a'i cariad tuag atom.
Elsi yn dangos lluniau a llythyrau ei mam oedd yn farch TÅ·'n Llwyn Pentrefoelas. Roedd Elsi, fel holl ferched y Wladfa wedi gweithio'n galed pan yn iau.
Un o'i gorchwylion, a phedair merch arall, erstalwm fyddai godro 45 o fuchod bore a nos hefo llaw wrth gwrs.
Credai yn gryf mewn meddyginiaeth lysieuol. Yfai wermod lwyd yn selog a bu'n ffustio ei hun â danadl poethion i wella gwynegon. Trodd y sgwrs i'r hen amser pan fyddai s6n am bell waith am ddychwelyd i'r Hen Wlad.
Roedd na dlodi a chaledi yn y Wladfa, meddent, ond roeddynt yn rhydd i wneud fel y mynnent, canu drwy'r dydd, y plant wrth eu boddau yn chwarae a marchogaeth eu merlod a dim rhaid bowio i neb.
Roedd ei rhieni yn sôn am fowio i'r sgweiar a hwnnw yn ei anwybyddu'n llwyr. Daeth yn amser i ffarwelio ag Elsi gydag addewid i gyfarfod eto yn yr Eisteddfod.