Roedd Margaret Politis yn ddel iawn yn ei ffrog flodeuog a'i gwallt mewn 'snwd' - sef math o net. Roedd Carys Evans yn smart yn ei sgert dyn a'i gwallt wedi cyrlio, ond y gorau oedd Shian Evans wedi ei gwisgo mewn hen iwnifform ffatri amiwnision! Daeth Non Williams a'i chyfeillion o Arddangosfa Llu Arfog Maes Artro (Y Bermo) atom i'n diddanu. Mwynhaodd pawb y prynhawn, yn enwedig' gan fod y gwahoddedigion mewn gwahanol wisgoedd o'r Fyddin a'r Lluoedd Awyr. Trafodwyd caledrwydd bywyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Rhannwyd atgofion melys ynghyd ac atgofion anodd gan y preswylwyr. Roedd yn emosiynol iawn pan ddisgrifiodd Mrs Myfanwy Ashurst ei phrofiadau hi o briodi a cholli ei gŵr yn Burma. Bu i Mrs Gwen Foster drafod caledrwydd o weithio mewn ffatri amiwnision yn Wrecsam. Rhannodd Mrs Doris Thomas ei phrofiadau o gyfarfod a'i gŵr tra roedd yn byw ac wedi ei magu yn Llundain. Roedd yntau yn enedigol o'r Bala. Priodwyd y ddau ac ymgartrefu yn ôl yn Bala i fagu eu teulu bach hapus. I gloi y pnawn, cynigwyd y diolchiadau gan Mrs Doris Thomas gan ofyn iddynt ddychwelyd eto yn ôl i'r Cartref yn fuan iawn. Yn dilyn pnawn llwyddiannus y Te Parti, cafwyd nifer o ymwelwyr i ymweld â'r arddangosfa ddiweddar - Byddin Tir y Merched. Mae pawb wedi mwynhau edrych dros y lluniau a'r hen eitemau a dychrynwyd ambell i blentyn gyda'r masgiau nwy! Cafwyd nifer o gyfarfodydd yn ystod y mis. Trefnodd Nalisha (nyrs) 'Gyfarfod Safonau Gofal'. Penderfynwyd a'r nifer o newidiadau i drïo gwella safonau byw y preswylwyr. Trefnodd Anne Marie Burkhill gyfarfod 'Cy1ch y Nadolig'. Penderfynwyd prynu nifer o eitemau newydd i addurno'r Cartref dros yr Ŵyl ac hefyd adloniant dros y tymor. Bu Carys Evans (nyrs) yn brysur gyda 'Cyfarfod Cronfa'r Preswylwyr'. Penderfynwyd prynu nifer o eitemau newydd gyda'r arian. Gobeithiwn gael DVD newydd ymysg pethau eraill i hybu gweithgareddau hamddenol a'r brynhawniau gwlyb yn y ddwy lolfa. Cafwyd hyfforddiant mewnol yn ystod y mis ar ddiogelwch symud cleifion. Croesawyd hefyd, penderfyniad Bwrdd Iechyd Lleol Conwy, o ail ystyried penodi Doctoriaid newydd i Feddygfa Cerrigydrudion am gyfnod o chwe mis. Croesawyd Nyrs newydd i'r Cartref sef Astrid Harry ac ar yr un pryd ffarweliwn ac Heather Farthing o'r Bala. Mae Heather wedi bod gyda ni am nifer o flynyddoedd ac wedi penderfynu ymddeol rŵan i dreulio mwy o amser gyda ei theulu. Bydd colled mawr ar ei h'ol. I gloi hoffem ddymuno Nadolig a gwyliau hapus iawn i Nalisha (nyrs) a'r gŵr Suben. Mae'r ddau wedi dychwelyd i Durban (De Affrica) am gyfnod o bum wythnos. Gobeithio iddynt fwynhau eu Dolig ymysg eu teuluoedd.
|