A chwilio ydi'r gwir hefyd gan nad oes dim arwydd na mynegbost i'n cyfeirio i'r fang re. Tase 'na gastell wedi ei godi gan y Saeson yn Sycharth, mi fasa'r lle'n frith o arwyddion. Fel y dywedodd yr Athro Dafydd Glyn Jones, mi ryda'n ni'n rhai da am guddio ein hanes ni ein hunain. Ond roeddem ni mewn dwylo diogel Meic, gyrrwr gofalus 'Teithiau'r Foelas' a dod a hyd i Sycharth fu hi er gwaetha difrawder yr awdurdodau at y lle cysegredig hwn yn ein hanes. Yno yn ein haros roedd un o gadfridogion Glyndŵr heddiw, sef yr Athro Dafydd Glyn Jones a'i briod annwyl Gwawr Angharad. Braint ac anrhydedd fu troedio Sycharth yn eu cwmni diwylliedig a gwrando ar yr Athro yn trafod cerdd enwog Iolo Goch sy'n disgrifio'n fanwl ysblander y lle yn ei anterth. Wrth weld y ddwy faner yn chwifio eto yn Sycharth, mi fasa'r hen Owain wedi'i blesio. Does dim o olion o'r gogoniant a fu yno heddiw - fe losgwyd y lle'n ulw gan frenin Lloegr. Ac eto, mae yno rywbeth sy'n cynhyrfu'r isymwybod, fel tasa Owain o gwmpas o hyd. Yng nghwmni Dafydd Glyn a Gwawr, fedrwch chi ddim peidio a blasu dyheadau dyfnaf Owain Glyndŵr a diolch o galon iddyn nhw am eu parodrwydd i ddod yno a'n swyno'n lân.Gan nad oedd yno le i barcio bws (diffyg arall gan yr awdurdodau) bu'n rhaid gadael ar ffrwst. Aros am ysbaid yn Froncysyllte a byrddio cwch ar y gamlas tros y bont enwog ac ymlaen i Langollen. Taith hyfryd, er na ddaethom ar draws yr anturiaethwr enwog Indiana Jones oedd rywle yn y cyffiniau. Hon oedd y bymthegfed bererindod ar hugain a da oedd cael cymaint o blant yn y cwmni eleni. Edrychwn ymlaen at y flwyddyn nesa yn barod.
|