Olion llygod dwr hwyrach yn y brwyn wedi cnoi y frwynen a gadal y canol neu'r gwynnin ar ol yn sypiau bach gwynion. Mae hyn yn digwydd yn aml yr adeg yma. Gwelais amryw o'r sypiau gwynion yma ar lan y Gonwy tu isa i Lyn Conwy yn y merddwr.
Troi'n ol ac i mewn i'r ty Blaen Eidda Uchaf ac eistedd wrth y bwrdd i gael paned a brechdan a dechrau sgwennu hyn o lith. Syllu allan drwy'r ffenest a Chudyll Coch (kestrel) yn disgyn ar y fedwen yn yr ardd tu draw i'r afon Eidda fechan, a hel meddyliau!
Y tair llofft a chegin a pharlwr a bwtri; grat a phopty a "boiler" i ddal dwr poeth. Gratiau yn y llofftydd a'r palwr. Syllu allan drwy ffenest ddi-wydr y gegin ac mae hi'n Ddolig a meddwl sut fath o ginio 'Dolig a gawsai'r hen deulu dri chwarter canrif yn ol.
Dim twrci'n saff ond gwydd mwy na thebyg a llysiau wedi eu codi o'r ardd. 'Roedd dwy ardd yno r'ochr draw i'r afon, a than mawn i dwymo'r popty. 'Roedd yno wastad gig y mylltyn (oen gwryw teir blwydd) wedi ei halltu a'i hongian o'r nenfwd fel cig moch i'w ddefnyddio fel bo'r angen, cig blasus rhyfeddol. Ychydig iawn o lo a ddefnyddid. Mawn oedd y tanwydd yn gyfan gwbl.
Tanwydd yr hen bentannau - a chlydwch
aelwydydd ein teidiau;
O'i gylch bu'r nyddau a'r gwau
A naws yr hen hwyr nosau! - JWJ
Mwy na thebyg 'roedd stof oel yma hefyd o gymorth at y coginio, a phwdin plaen cartre a saws gwyn o laeth y fuwch neu'r afr hwyrach, a lamp baraffin i oleuo'r nosweithiau tywyll; go brin eu bod mor gyntefig a defnyddio'r gannwyll frwyn, er bod hynny'n bosib hefyd dri chwarter canrif yn ol.
O babwyr y gwnai'r hen bobl - gannwyll
I gynnau yn siriol;
Yn ein hangen presennol
I ddu nos, a ddaw hi'n ol?
Mae'r gannwyll yn ddefnyddiol hyd heddiw pan ai'r trydan ar goll!
Go brin y caent ffesant mae'n siwr gan iddynt gael digon o'r rheini am fod cipar yn y teulu a dau neu dri potsiar hefyd, ac erbyn Nadolig roedd tymor y grugieir drosodd. Roedd byw'n arafach i fyny yma yn ucheldir Cwm Eidda.
Ael y drum, ucheldir iach - y llwm baith
Lle mae byw'n arafach.
Deffro'r bore i glochdar y grugieir a phan fyddai'r niwl yn drwchus byddent yn un rhes ar do'r beudy neu'r hen dy a'r gath yn dod ac ambell un i'r ty. Roedd honno'n botsiar hefyd. Ar y twyllnos neu'r bore bach gwrando ar
Yr afr yn yr awyr
Yn brefu am ei myn;
chwedl R Williams Parry yn ei gerdd Cyffes y Bardd. Rwyf bron yn siwr mai son am y "giach" neu'r sneipen mae o, pan gwyd hon yn uchel i'r nen mae'n gollwng ei hun i lawr a'r ddwy bluen fechan ym mon ei chynffon fel propelor yn gwneud y swn tebyg i'r afr yn brefu. "Gafr y Gors" yw enw arall ar y (Snipe).
Mae rhyw ddwy awr wedi pasio fel gwynt a gallwn fyw yma'n hawdd! Mae yna goedlan yng nghefn y ty a llarwydd mawr
hynafol yn llawn o flodau porffor yn y gwanwyn. Mae'n fan arbennig iawn i mi ac mae'n bechod ei weld yn araf adfeilio; ond bai'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw hynny!
Maent i fod i warchod "mannau hanesyddol arbennig a phrydferthwch naturiol". Un fantais yw ei fod yn lle tawel unig ac mae'r wennol yn nythu yn y gegin a'r ddylluan yn atic y llofft!
Hudolus oedd el ddelwedd - hen aelwyd
Wylaidd yr unigrwydd; (JWJ)
Cerdded i'w gwaith a cherdded i'r Capel (dair gwaith) a cherdded i'r ysgol yn y Llan gaea a'r haf ar bob tywydd a dod yn ol yn sych neu'n wlyb i ddiddosrwydd yr hen dy a'r tan mawn. Rhaid i minnau symud, mae'r dydd yn fyr ac rwyf am gychwyn am Dwr Gwyn a chorlan Hafnant ac anelu am darddiad yr Eidda a'r Hafnant ac wedyn am Lyn Brain Gwynion i "wylio beth a welaf". Yna i lawr heibio Gwely'r Lleidr i Ffridd Llech a galw heibio'r Garreg
Orchest a'r dyddiad 1869 wedi ei naddu arni hi.
Dim llawer i'w weld yr adeg hyn o'r flwyddyn ond ambell sgwarnog a chudyll a Barcud Coch i gadw cwmpeini ac un neu ddau o fwncathod. Mae braidd ormod o'r rhain (bwncathod) o gwmpas a chigfrain hefyd.
Cerdded i lawr Ffridd Llech a Blaen Eidda'n dod i'r golwg eto. Buasai'n braf gweld mwg y mawn yn dod drwy'r corn simne unwaith eto, ond go brin debyg. Af yno eto cyn bo hir, mae fel Mecca i mi rhyw fodd ac mae'n braf cael dwyn atgofion yn y byd cythryblus yma heddiw.
Y nghalenig i a Blwyddyn Newydd Dda i bawb gan y Gwerinwr.