Nos Fawrth Chwefror 2il cafwyd noson wych yn gweld gwaith coed Llewelyn a Gruffydd Tudur, seiri coed a chrefftau traddodiadol Cymreig sydd wedi cychwyn cwmni Coed Menai mewn uned yn y Faenol ger Bangor.
'Roedd ganddynt wahanol fathau o'i/ gwaith i'w arddangos, gan gynnwys llwyau serch a gitarau pren wedi eu haddurno yn gywrain.
Cawsom weld sleidiau o'r gwaith y maent wedi ei wneud ers iddynt gychwyn, pethau fel dreseli, byrddau, cadeiriau eisteddfodol a cheginau modem a thraddodiadol.
Gwesteion te; Catherine Ritchie ac Eirlys Jones.
Enillydd y gystadleuaeth, sef llwy garu, oedd Nancy Ritchie.
Enillydd y raffl; Ceri Evans. Diolchwyd i bawb gan Gwenda Hughes
|