Un o'r prif resymau am hyn yw ein bod yn byw mewn oes wastraffus, dwi'n siŵr nad oes angen i ni
gynhyrchu cymaint o wastraff yn y lle cyntaf ac
mae'n amser i bawb ail feddwl ynglÅ·n a'u ffordd o fyw.
Mae fy min sbwriel i yn llawer
ysgafnach ers i mi ddechrau ail gylchu, does
dim papur, gwydr, caniau, plastig na chardfwrdd yn cael eu rhoi yn y bin bellach.
Er fod ail gylchu yn syniad da mae ail ddefnyddio
yn syniad gwell ac mae peidio cynhyrchu yr
hll wastraff yn syniad gwell byth!
Roedd
cenedlaethau a fu yn rhagori arnom ni gan nad oeddynt yn cynhyrchu cymaint o lanast.
Bagia plastic
Mae bagiau plastig yn broblem aruthrol sy'n
cynyddu'n feunyddiol. Mae siopau erbyn hyn
yn ein hannog i ail ddefnyddio bagiau a byddaf
yn ceisio gwneud hynny ond mae'n hawdd eu
hanghofio, efallai petai raid i ni dalu amdanynt y buasem yn gwneud mwy o ymdrech.
Mae ambell i siop yn cynnig help i chi i bacio'ch nwyddau ond er i mi ddweud fod gen i fagiau
fy hun meant yn dal i estyn rhai newydd i mi.
Cewch gynnig 'bag for life' am ddeg ceiniog
mewn ambell i siop, Y cwbl ddweda i ydi os ydi
fy mywyd i yn mynd i fod mor fyr ag un y bag,
'does gen i ddim llawer i edrych ymlaen ato.
Ble mae synnwyr cyffredin dudwch? Mae llond y siop o focsys yn cael eu rhwygo a'i taflu i'r drol ail gylchu.
Defnyddiwch nhw hogia bach! Rhowch neges eich cwsmeriaid i mewn ynddynt, fydd dim angen bagiau wedyn.
Poteli
Nid y bagiau ydi'r unig blastig sy'n achosi problem, beth am yr holl boteli plastig a chartonau plastig sy'n cael eu defnyddio i bacio bwydydd?
Oes angen i bopeth fod wedi cael eu pacio ymlaen llaw, tydi nhw ddim yn blasu hanner cystal.
Mae poteli plastig yn bla,
erstalwm roeddach chi yn medru mynd a photel bop wydr yn ôl i'r siop a chael pum ceiniog am eich trafferth.
Dyna i chi boteli dŵr wedyn,
ydach chi wir yn credu fod dŵr sydd wedi bod yn sefyll mewn potel blastig ar silff yn iachach
na dŵr ffres sy'n rhedeg o'r tap neu o'r ffynnon, heb sôn am ei bris!
Papur
Papur, dyna i chi broblem arall, tunelli ohono fo. Rydan ni yn derbyn taflenni a ffurflenni di¬ bendraw. Peidiwch a'i cynhyrchu nhw, plis peidiwch, dydan ni ddim isio nhw!
Mae eisiau llenwi ffurflenni neu arolwg barn am rywbeth
dragwyddol. Os ydi'r car wedi bod yn y garej, rhaid mynegi eich barn am y gwasanaeth, pam na fedran nhw jyst ei drwsio fo yn ddistaw bach, mi fyddan nhw yn gwybod fy marn os ddoi yn nôl yno eto neu beidio.
Os ydach chi yn mynd ar gwrs wedyn, rhaid gwerthuso y cwrs ar y diwedd. Beth sy'n digwydd i'r ffurflenni yma wedyn? Oes yna rhywun yn eu darllen nhw go iawn ynteu eu hunig bwrpas yw i gynhyrchu graffiau, mwy o wastraff papur! Tro nesaf gwnewch 'run fath a fi, eu dychwelyd heb eu hateb, llawer mwy o hwyl!
Gwybodaeth
Mae taflenni
gwybodaeth yn cael eu gwthio o dan fy nhrwyn
lawer rhy aml hefyd, dydi pawb ddim angen
gwybodaeth am bopeth ac os ydan ni, dwi'n
siŵr ein bod yn ddigon abl i chwilio dros ein hunain.
Dod adref o Eisteddfod yr Urdd,
taflenni am wersi Cymraeg ar ffenestri ceir
pawb, a rheini yn cael eu taflu ar lawr y maes
parcio yn achosi coblyn o lanast. Gyda phob
parch, dwi'n siŵr nad oedd mwyafrif yr
Eisteddfodwyr angen gwersi Cymraeg.
Efallai y
dylai'r llywodraeth godi treth ar gynhyrchu
taflenni, taro dau dderyn efo un ergyd!
Nwyddau am ddim
Ydach chi wedi bod yn yr Eisteddfod Genedlaethol neu Eisteddfod yr Urdd yn ddiweddar, llond pobman o nwyddau am ddim
yn enwedig os oes ganddoch chi blant.
Mae'r
plant yn casglu pob math o bethau nes bod eich
cefn a'ch 'sgwyddau yn plygu o dan y pwysau,
ydi nhw eu hangen??
Mae hyd yn oed y
Cynghorau Sir wrthi, meddyliwch mewn
gwirionedd a hwythau yn methu fforddio cadw
ysgolion yn agored, "sori mae'n rhaid i mi gau
dy ysgol di, ond paid a phoeni dyma i ti feiro a
phensal am ddim!"
Llond crys- T o sticeri fydda
gennym ni yn dod adref o'r Eisteddfod
erstalwm. Rydan ni yn dysgu gwerthoedd anghywir i'r plant.
Siopa
Os ydach chi yn mynd i siopa mewn siopau
mawr cofiwch eu bod yn ceisio eich hudo i brynu pethau nad ydych eu hangen. Maent yn
symud eu silffoedd o gwmpas yn rheolaidd fel
fod raid i ni fynd i chwilo am bethau ac yna mae ein llygaid yn cael eu denu at rywbeth arall.
Maent yn cynnig bargeinion megis dau
am bris un pan nad ydach angen un ohonynt heb sôn am ddau. Mae'r staff wedi eu hyfforddi
i gynnig rhywbeth arall i chi wrth i chi dalu neu dynnu eich sylw at gynigion arbennig.
Mae
rhai siopau gyda stondin dymhorol pryd meant
yn newid y nwyddau i gyd-fynd a gwahanol
ddigwyddiadau yn ystod y flwyddyn. Llynedd
roedd un siop rhwng y Nadolig a'r Pasg yn
cynnig eitemau Santes Dwynwen, Sant Ffolant,
Gwyl Dewi, Sul y Mamau a Sul y Blodau yna'r Pasg ei hun.
Maent yn gosod y stondin
yn ddeniadol bob tro er mwyn ein denu i brynu.
Ceisiwch wrthsefyll y demtasiwn, sticiwch at
eich rhestr siopa a dim byd arall.
Dydi
nwyddau ddim yn cael eu gwneud i bara
heddiw, mae trwsio rhywbeth yn costio mwy nag un newydd - gwallgofrwydd!
Mae pobl yn cael eu hannog i fenthyg pres ac
mae cardiau credyd yn cael eu taflu atom.
Canlyniad hyn i gyd yw y wasgfa ariannol a'r dirwasgiad.
Mae nifer o siopau mawr wedi cau ac eraill dan fygythiad, fyddai ddim yn syndod i mi petai siopau bach yn dechrau ail agor a dod yn ôl yn boblogaidd.
Y tro nesaf y byddwch yn cael eich temtio i brynu rhywbeth nad ydych ei angen, eiriau'r hen bennill,
"Os gweli rhywbeth rhad a da
Cymea hyn o gyngor
Nid ydyw 'n rhad am unrhyw bris
Os gall dy flys ei hepgor"
Cofiwch fod ail gylchu yn dda, ail ddefnyddio yn well ond fod ail feddwl ynglŷn â chynhyrchu cymaint o lanast yn well byth!
Felly peidiwch a'i prynu!
Eirian