Bellach mae esiamplau o blant ac athrawon o'r ysgolion yn teithio ar hyd a lled Ewrop.
Sefydlodd Ysgol Dolwyddelan brosiect gydag ysgolion o Wlad y Basg, Iwerddon, Lithuania a Gwlad Pwyl.
Erbyn hyn rydym yn ail flwyddyn y prosiect a llawer o ddatblygiadau a phrofiadau positif yn dod yn ei sgil.
Dysgodd y plant lawer am y gwledydd trwy gyswllt uniongyrchol i phlant yr ysgolion.
Bu e-bostio rheolaidd, llythyru, thrafod chwedlau a dysgu geirfa newydd.
Yn ystod yr ail wythnos o Fai bu nifer o blant ac athrawon o'r ysgolion ar ymweliad â Dolwyddelan.
Bu cryn brysurdeb a thorchi llewys gan nifer fawr o fobl a rhoddwyd croeso i'w gofio a phob un o'r ymwelwyr wrth eu boddau.
Roedd hi'n wythnos lawn iawn a gychwynnodd gyda chyfarfod croeso yn neuadd yr ysgol. Bu dawnsio, canu a llefaru a hynny mewn chwe iaith - cychwyn ardderchog i'r wythnos.
Ymlaen wedyn i Gastell Dolwyddelan, Wil Jones a Dafydd oedd yn ein tywys a hynny mewn ffordd hynod ddiddorol.
Yn ôl wedyn i'r pentref a chyfarfod Y Ficer Kathy Jones a arweiniodd y grŵp o amgylch yr eglwys.
Teithio i Llechwedd ar fore yr ail ddiwrnod ac yna ymlaen i Bortmeirion a Beddgelert.
Taith ar y trên i Gyffordd Llandudno a Chastell Conwy ac yna ymlaen i Landudno ar y dydd Gwener. Diolch i Larry Davies, Arriva am ei gydweithrediad wrth drefnu.
Ar y nos Wener Dawnswyr Sir Conwy oedd yn difyrru'r ymwelwyr a hynny gyda chryn steil. Cafwyd twmpath ddawns a phawb yn llawn hwyl.
Yn ystod y noson cyflwynodd Edwin Noble, Cadeirydd y Cyngor Cymuned a Chadeirydd Corff Llywodraethol yr ysgol ddarlun wedi ei fframio yn rhodd gan y cyngor i bob un o'r ysgolion.
Taith gerdded oedd wedi ei threfnu ar gyfer y Sadwrn a hynny o Ddolwyddelan i DÅ· Mawr Wybmant.
Rhoddodd Wil sgwrs hynod ddiddorol am fywyd a gwaith William Morgan ac yna cyflwynodd ein cyfeillion o Euskal Herria (Gwlâd y Basg) Feibl yn ei hiaith eu hunain i ychwanegu at y casgliad gwych o feiblau sydd yn Nhŷ Mawr.