91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Odyn
Merched Cylch Meithrin Llanddoged Rafftio Dŵr Gwyllt
Gorffennaf 2008
Bu criw o chwech ohonom yn rafftio dŵr gwyllt yng Nghanolfan Tryweryn ddydd Sul, 6ed Gorffennaf, set Diana, Sian, Chrisina, Eirlys, Julie a Helen.
Mae'n sicr na welir caiw tebyg yn Nhryweryn yn aml, a diolch byth am hynny ddywedai Mario, y dyn druan oedd yn gyfrifol am ein diogelwch (ac am ddiogelwch eraill ar yr afon, gan i ni fod bron a tharo criw arall wrth fynd!!).

Doeth fyddai dweud cyn leied a phosib heblaw fod Mario wedi canmol sgiliau rhwyfo Diana (gyrfa newydd o bosib os byddi yn meddwl newid o fod yn Arweinydd Cylch Meithrin!).

Dylem hefyd bwysleisio ein bod wedi cwblhau'r daith nid unwaith ond dwywaith a bod Mario wedi gorfod cael triniaeth ar ei glustiau wedi i ni orffen, oherwydd maint ac uchder y sgrechian.

Yn ôl pob sôn, roedd modd ein clywed am rai munudau cyn i ni ddod i'r golwg.

Diolch i'n teuluoedd am ddod i gefnogi (er fod ambell un wedi ein holi am fanylion yswiriant bywyd cyn cychwyn) a diolch yn anad dim i'r rhai hynny fu'n ddigon caredig i gynnig ein noddi.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý