Roeddynt yn perthyn i grŵp o ddawnswyr o'r enw Sanved a oedd ar ymweliad â Chymru - efallai i chwi eu gweld yn cymryd rhan yng ngwasanaeth agoriadol Eisteddfod yr Urdd ym Môn. Trwy ddawnsio, maent yn tynnu sylw at yr hyn sy'n digwydd i blant tlawd yn yr India ond mae dawnsio yn therapi hefyd iddynt ddygymod a'u profiadau. Maent yn byw mewn lloches i ferched yn Calcutta dan adain mudiad o'r enw Sanlaap, un o bartneriaid Cymorth Cristnogol yn yr India. Trwy gyfieithydd adroddwyd hanes merched y lloches - rhai wedi eu twyllo i adael eu pentrefi dan addewid o waith a chael eu hunain mewn puteindai neu'n gorfod llafurio oriau meithion fel caethweision am ddim tâl o gwbl. Roedd yn anhygoel meddwl bod y merched ifainc hapus a direidus yr olwg hyn wedi wynebu'r fath brofiadau erchyll. Roedd eu cyfarfod hefyd yn dystiolaeth o'r gwaith da mae mudiadau fel Cymorth Cristnogol yn ei gyflawni trwy weithio law yn llaw gyda mudiadau lleol fel Sanlaap. Ni fedrai neb warafun cyfrannu pan ddefnyddir yr arian i weddnewid bywydau plant fel sydd yn digwydd yn y llochesau hyn yn Calcutta.
|