Dyma yn sicr y darlun enwocaf yng Nghymru, yn dangos aelodau capel bychan, syml yng Nghefncymerau ger Llanbedr, yn addoli ar y Sul.
Pwy oedd y Siân yma medda chi? Mae hi i'w gweld yn y llun yn cerdded at sedd y teulu yn ei siôl lliwgar. Mae'r cloc ar y wal yn dangos ychydig o funudau cyn 10 o'r gloch, felly mae Siân yn hwyr i'r oedfa.
Fe'i ganed yn 1837, ym Maes y Garnedd, ffermdy mynyddig, a symud yn hwyrach i Lanbedr lle bu farw yn 1927.
O dan y cloc gwelwn Robert Williams o Gae'r Meddyg, diacon Salem, ac wrth ei ymyl mae Laura Williams o Tŷ'n y Buarth. Gwelir hefyd Owen Siôn o'r Garleg Coch a'i gefn at y wal.
Y bachgen bach ydi Evan Edward Lloyd a Meri Rowlands wrth ei ochr. A'i ben ar osgo ar y dde mae William Siôn, brawd Owen Siôn.
Y siôl sy'n tynnu sylw yn y llun ond a yw'n gweddu i'r llun? Rhywsut mae'n rhy grand - disgwylid i bawb ddangos mwy o wyleidd-dra yn eu gwisg mewn lle o addoliad. Fel y gwelir yn y gerdd gan T Rowland Hughes, siôl fenthyg yw hi. Doedd siôl Siân ei hun ddim yn ddigon crand, felly benthyciwyd un gan wraig Ficer Harlech.
Dywed rhai fod Siân Owen wedi dod i'r oedfa yn fwriadol hwyr er mwyn tynnu sylw at ei hun ac mae'r 'pechod' yn amlygu ei hun yn wyneb y diafol yn cuddio ym mhlygion ei siôl.
"Nid dweud yr wyf mai urddas ffôl
Oedd urddas benthyg, crand y siôl."
Mae'r patrwm paisley ar ffurf corn anifail, y plygiadau yn ffurfio llygad a thrwyn, ac ymyl y siol yn farf iddo. Yn ddiweddar awgrymwyd hefyd fod y rhif 6 (arwydd y diafol) i'w weld yn y siôl.
Paentiwyd y llun gan Sidney Curnow Vosper yn 1908, mab ieuengaf bragwr o Ddyfnaint. Ni wyddom hyd heddiw yn union y rheswm am baentio'r llun. Yn sicr, fe geisiodd greu awyrgylch dduwiol, Fictorianaidd yn yr olygfa hamddenol o'r Capel.
Yn 1902 priododd Constance James o Ferthyr Tydfil - hwyrach mai dyma'r cysylltiad Cymreig. Daeth i'r Capel hynod yma i baentio'r llun gan dalu 6c yr awr iddynt am eistedd.
Prynwyd Salem gan yr Arglwydd Leverhulme yn 1909 am 100 gini. Gellir ei weld heddiw yn Amgueddfa Lever yn Port Sunlight.
Defnyddiwyd y llun i farchnata sebon Sunlight y Brodyr Lever. Roedd cwsmeriaid yn casglu tocynnau o'r pacedi ac yn eu hanfon at y cwmni i sicrhau copi o'r darlun. Felly dyna pam y daeth y llun yma mor boblogaidd yng Nghymru.
Pam cymryd diddordeb yn y llun medda chi? Wel fe'i gorffennwyd yn 1908 ac felly y mae yn dathlu ei ben-blwydd yn 100 oed eleni. Oherwydd hynny cychwynnodd y ddau ohonom am Gapel Salem. O bentref bach Llanbedr, tua hanner milltir ymlaen, mae'r ffordd yn rhannu ble mae dwy afon yn creu dau gwm, Cwm Bychan a Cwm Nantcol.
Adnabyddir y llecyn hwn fel Cefncymerau (lle cyfarfod). Yn ystod y ganrif ddiwethaf roedd y gynulleidfa yn cyfarfod i addoli ar lan yr afon gan fedyddio yn ei dyfroedd. Yn 1850 penderfynwyd adeiladu y capel a welwn heddiw.
Mae gwasanaethau yn dal i gymryd lle yno unwaith y mis. Mae'n amlwg fod rhywun yn edrych ar ei ôl yn ofalus. Gellir gweld y cloc sydd yn y llun wedi oedi ar dri munud i ddeg a'r gloch.
Diddorol gweld pegiau dal dillad ar hyd y waliau y tu ôl i'r seddi i ddal cotiau yr aelodau gan nad oes cyntedd i'r capel. Cawsom gyfle i chwarae'r organ, arwyddo y llyfr ymwelwyr a chyfrannu yn y bocs arian.
Braf oedd gweld fod dosbarth o blant o ysgol gynradd gyfagos wedi ymweld â'r capel ar ddiwrnod cyntaf y tymor - hwythau yn cofia am y dathlu.
Cofiwn eleni felly am y darlun yma a ddaeth yn eicon o Gymreictod ac a swynodd pawb drwy ddangos y ffordd syml o fyw mewn cyfnod cynnar.
Salem - T Rowland Hughes
Siân Owen Tŷ'n Fawnog yw'r hen wraig
A wisgai'r siôl a'i hurddas benthyg, mwy,
Hen wreigan seml a chadarn fel y graig
Uwch Cefncymerau, lle'r addolant hwy,
Y cwmni gwledig ar ddiarffordd hynt -
Siân Owen, Wiliam Siôn ac Owen Siôn,
A Robat Wilias o Gae'r Meddyg gynt,
A Laura Tŷ'n y Buarth fwyn ei thôn.