91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Odyn
Briallu Byd Natur
Ebrill 2003
Mae rhyw gynhyrfiad nad oes mo'i wadu o weld ebrilliad gold y briallu, meddai Dic Jones yn ei awdl arbennig iawn i'r Gwanwyn.
Mae ambell i friallu yn gwenu arnom o gilfachau'r goedwig, yn enwedig pan mae rhyw gornant yn disgyn i lawr drwy'r coed a'r tonnaen aur (golden saxifrage) yn garped gwyrdd ar y creigiau llaith. Planhigyn eraill sydd i'w canfod yn y math yma o safle y'w liver wart sef llysiau'r afu, yn enwedig mewn cilfachau tywyll gydag ambell i redynnen anarferol weithiau.

Ie, mannau diddorol eithriadol yw ceunentydd llaith a thywyll a pherygl hefyd weithiau; felly gofal piau hi.

Mae'r benllwyd hefyd wedi ymddangos yn ymwthio'n swil drwy'r cawn ac fel mae'n dod i'w lawn dwf ac yn datblygu'n blu'r gweunydd, neu dyna i bob pwrpas y byddwn i yn eu galw. Gelwir gan rai yn "ganhwyllau'r gors". Oes mae y tyfiant gwanwynnol yn ymddangos yma ac acw.

"Mae llais rhyw gymell isel yn dangos
Y ffordd i'r rhos ac i ffwrdd o'r rhesel."

Dic Jones

Ebrill a'i gawodydd medda nhw ynte, mae hi wedi bod yn Fawrth eithriadol o sych; y sychaf ers hanner can mlynedd meddai'r gwybodusion. Rhaid eraill yn dweud y sychaf ers 1937. Roeddwn i braidd yn ifanc i gymryd sylw o'r tywydd pryd hynny, ac yn gweithio i'r Cwin yn 53; dwy flynedd o wastraff hollol!

Mae'r tymor nythu wedi cyrraedd ac ambell i aderyn mudol rwyf wedi ei weld; fel tinwen y garn (wheatear). Gweld pymtheg o'r cwtiad aur (golden plover) yn hedfan o gyfeiriad y Foel am Gwm Gylchedd. Y gylfinhir a'r gornchwiglen wedi cyrraedd, ac yn fwy niferus na'r llynedd yn ôl pob golwg. Bydd prysurdeb mawr gyda hyn a nythod ymhobman os cant lonydd gan y wiwer lwyd a'r piogod.

Ni fu saer na'i fesuriad yn rhoi graen
Ar ei grefft a'i drwsiad;
Dim ond adar mewn cariad
Yn gwneud ty heb ganiatâd.

Roger Jones

Roedd tinwen y garn yma wythnos yn gynt na'r llynedd. Gwelais y gyntaf ar Fawrth y 18fed a'r cornchwiglod a'r gylfinhir ar Fawrth y 24ain.

Mae'r haul wedi bod yn eitha cynnes ar brydiau ac wrth godi ambell i garreg yn yr ardd yn Dinas canfyddais un neidr ddafad neu'r "slow worm" o liw copor.

Un fechan iawn oedd hi felly mae'n rhaid eu bod wedi deor yn gynnar. Y 27ain o Fawrth oedd hi a dyna'r cynharaf erioed i mi weld neidr o unrhyw fath.

Mae rhyfeddodau i'w canfod yn aml ym myd natur fel rwyf wedi sôn o'r blaen lawer gwaith, a byddaf yn hoffi'n fawr iawn pan ddaw rhywun a stori neu sylw i mi.

Yn un peth mae'n dangos fod gan bobl ddiddordeb a'u bod yn sylwi; dim r'un fath a phobl y trefi yma yn cerdded drwy'r dydd a gweld dim ond y palmant o'u blaen.

Hefin, Brynddraenan gynt yn gofyn welaist ti fadjar coch rhywbryd? Pry llwyd oedd ganddo dan sylw werth gwrs, ac i ddweud y gwir toeddwn erioed wedi gweld un byw na marw ond yn gwybod amdanynt ac wedi gweld lluniau.Peth gweddol gyffredin; gweddol iawn a dweud y gwir, ond mae yn digwydd fel y gallwch gael llwynog neu dwrch daear gwyn; ac hyd yn oed fwyalchen neu jac do gwyn. Rhyw "freak" ym myd natur.

Yng nghyffiniau Nant y Rhiw oedd hwn wedi ei drawo gan gar, mwy na thebyg, ond diolch am y sylw. Mae'n dweud yn llyfr Eseciel yn rhywle
"Mi a'th wisgais hefyd a gwaith edau a nodwydd, rhoddais i ti hefyd esgidiau o groen daerfoch!"

A rhyw ganrif neu ddwy yn ôl byddant yn eu bwyta hefyd! Ken, mab Hefin Jones ddaeth ar y ffôn wedi bod ar ôl y cadno; roedd yna golli wyn dybryd tua Phenmachno ac yn mynd drwy'r goedwig ac aderyn pur fawr, bron cymaint a bwncath, yn hedfan o dwyll yn y ddaear ac yn gofyn beth allasai fod. Pan aeth i edrych i'r twll, tua hyd braich i mewn, roedd nyth a phump o wyau gwynion. Wedi meddwl a chwilio dod i benderfyniad mai un o ddwy dylluan oedd yno'n nythu. Y dylluan glustiog (short eared owl) sydd bob amser yn nythu ar lawr ac yn frown a'r un maint a bwncath fwy na heb ac i'w chael ar y Migneint ac o gwmpas pinwydd ifainc.

Neu fe all fod y dylluan garniog (long eared owl) sydd yn debycach o fod mewn coedwig gonwydd ac yn nythu yn eu brigau ond hefyd wedi ei chanfod yn nythu ar lawr.

Mae'r glustiog yn hela liw dydd golau a'i phrif fwyd yw'r llygod bach sydd yn byw yn y cawn. Mae'r gorniog wedyn yn hela liw nos fel y rhelyw o'i theulu, ac fe ddeil hon lygod bach a mawr. Dim clustiau ond rhyw dusw o blu yn sticio i fyny o'r pen ac yn ei gwneud yn haws gwahaniaethu rhwng y ddwy. Mae'r gorniog yn llai ychydig.

Englyn i un o gwn Ken gan John Lewis Jones, Gwernymynydd, Celyn gynt.

Y Daeargi
Un eger wrth lwynogod a ffyrnig
Uffernol wrth gathod:
A llawen herio llewod
Wna'r un bach, y dewra'n bod.

Ydi mae Ebrill yn fis arbennig, mis fy ngeni a mis y blodau, a dyma ichi hir a thoddaid gan y diweddar (gwaetha'r modd) D O Jones, Ty Ucha:

Mis Ebrill
Mis nythu'r gwanwyn, mis nithio'r gweiniaid
Mis cloddio cyfal, mis claddu defaid;
Mis dyfod gôg, mis deor eogiaid,
Mis hoff ei heulwen a mis y ffyliaid
Yn ei berth mae serch di-baid llawer dau
Yn nwyd eu horiau ar garped euraid.
Gwerinwr


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý