Wir i chi!
Pam? Wel, diolch i anogaeth Meri'r ysgrifenyddes ffyddlon a Gwyndaf, Cadeirydd 'Yr Odyn' llwyddwyd i ddenu Cwmniau newydd i gymryd rhan yn ogystal â llwyddo i ddeffro awydd rhai a fu'n cysgu am rhyw flwyddyn neu ddwy i ail afael mewn pethau.
Stôr o ddiddanwch yng Ngŵyl Ddrama'r Odyn hyd yn oed yn y ddrama mwyaf seriws ei natur a'i naws.
Ar y nos Lun, agorwyd yr Å´yl gan gwmni Capel Garmon - cwmni a gynhwysai ambell i 'hen stejar' ond a oedd hefyd gydag aelodau a oedd yn actio am y tro cyntaf erioed.
Arweiniwyd y gynulleidfa'n ddeheuig i gredu mai person o gig a gwaed oedd yr ymadawedig cyn datgelu'r gyfrinach ychydig cyn y diwedd.
Yr hyn wnaeth argraff ddofn ar Maldwyn John, y . beirniad craff oedd pengliniau noeth a mwshtash blewog Dewi Garmon.
Ni allai goelio nad coluro ardderchog oedd y blewiach o gwmpas y gwefusau.
Roedd teitl drama Penmachno sef, 'Gwely Dwbl' yn awgrymu ymwneud a sefyllfa ffars 0 gwmpas y gwely mawr yma.
A dyna a gafwyd - drama gyfan yn creu sefyllfaoedd o ddenu a neidio i'r gwely.
Cafwyd perfformiadau cofiadwy iawn a chydweithio gan y pum aelod o'r cast.
Da hynny gan fod y ddrama'n hollol ddibynnol ar amseru fel ergydion o wn.
Bydd gweld 'Morus Huws' yn ei drons coes hir (long johns) a hwnnw gyda staen arno yn olygfa a fydd yn aros yn y cof am flynyddoedd.
Diolch hwyrach fod mam yr actor ar ei gwyliau'n Seland Newydd ac yn colli'r Å´yl neu 'does wybod beth fuasai'n ei feddwl.
Ond, ym marn y beirniad a llawer iawn o'r gynulleidfa mae'n rhaid gen i, dyma griw gorau yr Å´yl gyfan.
Dyma'r drydedd waith i Benmachno ennill.j Llongyfarchiadau mawr iddynt.
Yna, camodd criw ifanc o Garmel i'r llwyfan i gyflwyno 'Y Ddwy BoteI'.
Yn ffodus, roedd yr actorion yn perthyn i'w gilydd ac yn ymwneud a'i gilydd yn rhwydd a llithrig gyda sawl perfformiad unigol yn gwneud argraff.
Yn sicr, mae yma botensial am flynyddoedd o hwyl a diddanu gan y criw talentog yma.
Nos Fawrth gyrhaeddodd gyda'r gynulleidfa ddisgwylgar yn edrych ymlaen am ail adroddiad o lwyddiant nos Lun.
Agorwyd y noson gyda Sefydliad y Merched, Ysbyty !fan yn 'Chwilio am Ddyn'.
Tros y blynyddoedd, bu imi gyfarfod 'Ceti' mewn sawl achlysur gwahanol ond ni sylwais erioed ar y gwallt hirfelyn a'r sgert hir llawn slitiau o'r blaen.
Seren y perfformiad heb unrhyw gwestiwn oedd 'Mrs Thomas' a dderbyniodd 'rosette' coch yn anrheg oddi wrth berson di-enw.
Yn wir, yn 84 oed haeddai Eirlys Jones gael ei chydnabod fel 'the best in show' chwedl y beirniad gwerthfawrogol o'i champ.
Nifer o ieuenctid gyda help rhai ychydig mwy profiadol a gafwyd yng nghriw 'Munud ala', Pentrefoelas'. 'Lorraine', merch y fferm oedd yn ganolog i'r ddrama yma a chafwyd perfformiadau grymus gan yr holl griw.
Erbyn hyn, mae 'Mr Cartwright' hefyd wedi mynd dros y dwr i Seland Newydd am chwe mis i weithio a chwarae rygbi.
Y perfformiad yma enillodd y teitl, Cynhyrchydd gorau'r Å´yl i Gwynfor, Hafod Dre.
'Llifeiriau' oedd teitl drama Padog a dyma berfformiad unigol hwyaf yr Wyl gydag areithiau hirfaith ynddi.
Cofiwch fod Wil Sam, yr awdur wedi caniatau i rannau pur helaeth gael eu torri allan o'r gwreiddiol.
Gwelwyd sawl araith unigol hir ac, yn wir, perfformiad Eryl P fel ' Y Tramp' enillodd iddo deitl actor gorau'r Å´yl.
Dau gwmni ieuenctid yn cynrychioli dau glwb Ffermwyr Ifanc oedd ar y llwyfan nos Fercher.
Ysbyty Ifan yn perfformio'r un ddrama â Charmel nos Lun cynt a rhyfedd oedd gweld y gwahaniaethau bychan mewn cynhyrchu rhwng y ddau berfformiad.
Hon eto'n gafael yn rhywun a braf oedd i 'weld llond llwyfan o bobl ifanc yn mwynhau.
Roedd criw Llanrwst yn ieuengach fyth gyda'r cynhyrchydd a'r actorion i gyd yn eu harddegau.
'Melys Gybolfa' oedd teitl y ddrama a rhaid nodi fod meddwl 'Tomos Trybeini' yn llawn gybolfa'n wir.
Ond daeth dawn actio Tomos Williams gymaint i'r golwg fel y bu iddo ennill y cIôd fod yn actor ifanc mwyaf addawol yr Ŵyl am yr ail flwyddyn yn olynol. Tipyn o dalent!
Ni fedrai Maldwyn John weld unrhyw drwch blewyn o wahaniaeth rhwng y ddau gwmni ieuenctid a byddent yn rhannu'r darian am chwe mis yr un.